Tri o dîm gwisgoedd yr Orsedd 'yn haeddu' cael eu hurddo
- Cyhoeddwyd
Mae gwaith y tîm sy'n paratoi gwisgoedd yr Orsedd yn "amhrisiadwy" yn ôl Arolygydd y Gwisgoedd, Ela Jones.
Heb yn wybod i nifer, mae'r paratoadau i tua 450 o wisgoedd yn digwydd drwy gydol y flwyddyn i sicrhau fod pob un sy'n rhan o brif seremonïau'r Eisteddfod yn edrych ar eu gorau.
Ddydd Llun, fe fydd tri o'r gwirfoddolwyr sy'n helpu Ela gyda'r gwaith ymhlith yr unigolion sy'n cael eu hurddo i'r Orsedd eleni.
Fyddai'r holl waith "ddim yn bosib", dywedodd neu Ela Cerrigellgwm - ei henw gorseddol - heb gefnogaeth Marian a Hywel Edwards, a'i gŵr, Hywel.
Daw Ela Jones, 70, o Ysbyty Ifan yn Sir Conwy ac mae'n Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd ers 2012.
Wedi gweithio yn y maes ar hyd ei hoes, bu'n rhaid iddi ymgeisio am y swydd - ar ôl "wythnosau o ddweud na fyddai'n gwneud!" - a chael cyfweliad ar ôl i Sian Aman ildio'r awenau.
'Wrth fy modd efo'r gwaith'
Dywedodd fod gwneud y swydd yn "fraint" ond wrth i'r Brifwyl symud o flwyddyn i flwyddyn, mae llawer o waith paratoi i'r tîm o wirfoddolwyr y tu ôl i'r llen.
"Dw i wrth fy modd efo'r gwaith ac ella' bod lot ddim yn sylwi," dywedodd.
"Yn ogystal â'r gorseddogion, mae gynnoch chi swyddogion y llys, y rhai sy'n canu'r utgyrn, cyflwynydd y flodeuged a'r corn hirlas, y macwyiaid, yr archdderwydd, y rhai yn y ddawns flodau, eu penwisgoedd nhw - mae'n rhestr hir!
'Gormod o waith mewn diwrnod!'
"Mae'r paratoi'n digwydd pan ddaw un 'Steddfod i ben. Mae'r gwisgoedd gwyn a glas a gwyrdd i gyd yn mynd i'r golchdy yn Llanelli.
"Yna mae nhw'n dod yn ôl i Llanybydder i'w cadw cyn diwedd Awst, rhan amla'.
"Yna, tua mis Medi, mis Hydref, mi fydda' i a Marian yn mynd i Lanybydder i roi trefn ar y dillada' 'ma.
"'Dan ni'n gorfod mynd lawr ddwywaith i wneud hynny, mae o'n ormod o waith i wneud mewn diwrnod!"
Mae nifer o'r gwisgoedd yn aros yn Llanybydder ond mae'r gweddill yn dychwelyd i Ysbyty Ifan gydag Ela.
Mae'r gwisgoedd yn cael eu cludo a'u defnyddio yn y seremonïau cyhoeddi ac yna ym mhrif seremonïau'r Eisteddfod.
Mae'n rhaid trefnu a smwddio'r holl wisgoedd a gyda help gwirfoddolwyr yr ardal, mae'r gwaith hynny wedi ei gwblhau yn Llŷn ac Eifionydd.
Heb y tîm sy'n ei chefnogi, fe fyddai'r gwaith yn anodd, dywedodd Ela.
"Wel, Hywel a Marian - faswn i ddim yn gallu gwneud heb eu cymorth nhw. Ma' nhw'n gefn.
"Ma' Marian yn dod lawr i Lanybydder o leiaf dair, bedair gwaith y flwyddyn - amhrisiadwy. Fy mraich dde! Ond ma' gynna' i fraich chwith hefyd o'r enw Sian Edwards hefyd yn ystod wythnos y 'Steddfod sy'n arbennig.
"Mae'r ddau Hywel yn amhrisiadwy hefyd - cludo i bob 'Steddfod o 'Sbyty Ifan. Yn enwedig 'Steddfod Caerdydd pan 'nes i syrthio a brifo fy ysgwydd. 'Swn i ddim wedi gallu gwneud heb y tri."
Dywedodd eu bod - fel nifer o bobl sy'n gweithio y tu ôl i'r llen wrth drefnu a pharatoi ar gyfer y Brifwyl - yn haeddu cael eu hanrhydeddu.
"'Dw i mor falch bod y rhai sydd wedi eu henwebu nhw - gorseddogion sydd wedi eu henwebu nhw - wedi gwneud achos ma' nhw'n gweithio mor galed. Ma'n nhw'n haeddu.
"Mi rydan ni yn mwynhau, yn cael llawer iawn o hwyl, a ma' bob 'Steddfod â'i gwirfoddolwyr gwahanol a 'dan ni wrth ein boddau yn eu cyfarfod nhw.
"Ma' nhw'n cael braw i ddechre' wrth feddwl bod angen smwddio gymaint, ond erbyn diwedd y dydd 'dan ni i gyd yn ffrindia' mawr!"
Fe fydd 50 o aelodau newydd yn cael eu hurddo i'r Orsedd yr wythnos hon.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2023
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2023