Jay Humphries: Carcharu mab prif weinidog am dorri amodau llys
- Cyhoeddwyd
Mae troseddwr rhyw wedi cael ei garcharu am 58 wythnos am dorri gorchmynion llys ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar.
Roedd Jay Humphries, 36, wedi cyfaddef ei fod wedi dileu hanes ei borwr gwe ac wedi agor cyfrif dan enw cyfrinachol ar wefan gymdeithasol.
Yn 2018, fe gafodd ei garcharu am dros wyth mlynedd dan ei enw blaenorol - Jonathan Drakeford - wedi i lys ei gael yn euog o dreisio.
Mae'n fab i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Ddydd Gwener, dywedodd y Barnwr Timothy Petts wrth Lys y Goron Caernarfon bod 'na "risg go iawn" y byddai'n aildroseddu pe bai'n cael ei adael allan o'r carchar ar drwydded eto.
Cafodd ei ryddhau'n wreiddiol ym mis Ionawr ac roedd yn aros mewn llety oedd wedi ei gymeradwyo gan yr heddlu, a daeth i'r amlwg ym mis Mawrth ei fod o wedi torri telerau ei Orchymyn Atal Niwed Rhyw.
Roedd wedi cael caniatâd swyddogion i ddefnyddio gwefan ganlyn Fab Guys, ond ar yr amod ei fod yn defnyddio enw defnyddiwr a chyfrinair penodol, fel bod modd monitro ei weithgarwch ar-lein.
Yn lle hynny, defnyddiodd enw gwahanol - naughty 5007387. Clywodd y llys bod yr enw oedd yr heddlu a'r diffynnydd wedi cytuno arno ddim ar gael.
Canfu'r plismyn hefyd bod Humphries wedi dileu hanes ei weithgarwch ar borwr gwe Google Chrome.
Mae'n dweud ei fod wedi gwneud hynny'n ddamweiniol - ond dywedodd y barnwr bod ei weithred yn "fwriadol".
Roedd Humphries wedi cael rhybudd yn gynharach yn 2023 ar ôl iddo ddileu negeseuon ffôn symudol - ond wnaeth o "ddim cymryd sylw" o'r rhybudd, meddai'r barnwr.
Clywodd y llys bod elfennau rhywiol i'w weithgarwch ar-lein, ond dim byd anghyfreithlon.
Wrth ddedfrydu, dywedodd y barnwr bod angen iddo ystyried y ffaith i Humphries dorri amodau'i orchymyn mor gynnar ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar.
Cyfeiriodd yr amddiffyniad at y ffaith iddo bledio'n euog, a'i ddiagnosis o awtistiaeth, fel ffactorau eraill i'w hystyried.
Gan roi dedfryd o dros flwyddyn iddo - gyda hyd at hanner y cyfnod hwnnw'n cael ei dreulio dan glo - atgoffodd y Barnwr Petts bod "rhaid i'r heddlu fod yn gallu monitro beth rydych yn ei wneud, yn sgil eich troseddau blaenorol".
Roedd Humphries yn bresennol yn y llys drwy gyswllt fideo o Garchar Berwyn yn Wrecsam.
Clywodd gwrandawiad blaenorol ei fod wedi cael ei anfon yn ôl i'r carchar ym mis Mai ar ôl torri amodau ei drwydded, gan gynnwys gadael neges ffôn mileinig i swyddog prawf.
Yn 2018, cafodd ei garcharu am wyth mlynedd ac wyth mis yn Llys y Goron Caerdydd ar ôl iddo gael ei ganfod yn euog dreisio ac o achosi niwed corfforol.
Roedd hefyd wedi pledio'n euog i drosedd rhyw wedi iddo yrru negeseuon ar Facebook i ferch oedd o'n credu oedd yn 15 oed.
Ar y pryd, dywedodd Mark Drakeford ei fod yn gyfnod anodd i'w deulu, a bod eu meddyliau "gyda phawb sydd ynghlwm â'r achos, yn enwedig y dioddefwr".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2023