Mab gwleidydd yn torri gorchmynion troseddau rhyw

  • Cyhoeddwyd
Jonathan DrakefordFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae dyn 36 oed a gafwyd yn euog o dreisio wedi cyfaddef iddo dorri amodau gorchmynion troseddwyr rhyw.

Cafodd Jay Humphries ei garcharu yn 2018 o dan yr enw Jonathan Drakeford, ac mae'n fab i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Cafodd ddedfryd o wyth mlynedd ac wyth mis dan glo yn Llys y Goron Caerdydd wedi iddo ei gael yn euog o dreisio ac achosi niwed corfforol.

Roedd hefyd wedi cyfaddef i drosedd rhyw yn erbyn plentyn wedi iddo gyfathrebu gyda merch ar Facebook pan oedd yn credu ei bod hi'n 15 oed.

Cafodd Humphries ei arestio ym Mangor ym mis Mawrth wedi iddo gael ei ryddhau o garchar ar drwydded.

Cafodd ei gyhuddo o dorri dau orchymyn atal niwed rhywiol drwy ddefnyddio cyfrif oedd heb ei gymeradwyo ar wefan gymdeithasol 'Fab Guys'.

Roedd hefyd wedi dileu cofnod ei hanes pori'r we o'i ffôn symudol.

Plediodd yn euog i'r ddau gyhuddiad yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Gwener.

Gorchmynion yno 'am reswm'

Er na chafodd neb niwed o'r troseddau, dywedodd yr erlynydd Catherine Elvin: "Mae gorchmynion atal niwed rhywiol yn cael eu gosod am reswm."

Clywodd y llys fod Humphries wedi mynnu mai damwain oedd dileu ei hanes pori ar y we, ond roedd yr erlynydd Catherine Elvin yn credu fod pledio'n euog i hynny yn ymgais bwriadol "i guddio" ei weithredoedd.

Wrth amddiffyn Humphries dywedodd Gemma Morgan ei fod wedi cael trafferth dod i delerau gyda'i sefyllfa bersonol ar ôl cael ei rhyddhau o'r carchar, ac wedi cael ei orfodi i fyw mewn llety wedi'i gymeradwyo yng ngogledd Cymru yn bell o'i deulu.

Clywodd y llys hefyd ei fod yn delio gyda marwolaeth ei fam Clare Drakeford ym mis Ionawr eleni.

"Roedd yn diodde'n emosiynol," meddai Ms Morgan.

"Roedd yn siarad gyda dynion eraill ar 'Fab Guys' er mwyn mynegi ei deimladau."

Clywodd yr ynadon bod Humphries bellach wedi cael ei alw'n ôl i'r carchar yn dilyn torri amodau eraill o'r drwydded, gan gynnwys gadael neges sarhaus i swyddog prawf.

Bydd Humphries nawr yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ar 11 Awst.

Pan gafodd Humphries ei garcharu yn 2018, dywedodd Mark Drakeford mewn datganiad ar y pryd bod ei deulu wedi bod drwy gyfnod anodd, a bod eu meddyliau "gyda phawb sydd ynghlwm â'r achos, yn enwedig y dioddefwr".

Pynciau cysylltiedig