Naw wedi'u hanafu ar ôl i gar daro maes gwersylla

  • Cyhoeddwyd
NiwgwlFfynhonnell y llun, The Pembrokeshire Herald
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffordd yr A487 yn agos iawn at y maes gwersylla, oedd yn llawn pebyll ar y pryd

Mae naw o bobl wedi cael eu hanafu, a chwech wedi'u cludo i'r ysbyty, ar ôl i gar wyro oddi ar y ffordd a tharo "nifer o bobl a phabell" ar faes gwersylla yn Sir Benfro.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod eu bod yn credu fod dau berson wedi dioddef anafiadau difrifol yn y digwyddiad ar safle Newgale Campsite yn Niwgwl nos Sadwrn.

Cadarnhaodd y gwasanaeth ambiwlans fod un person wedi cael ei hedfan i'r ysbyty, a bod y pump arall wedi'u cludo i ysbytai ar y ffyrdd.

Mae ffordd yr A487 yn agos iawn at y maes gwersylla, oedd yn llawn pebyll ar y pryd.

Dywedodd yr heddlu fod Ford Fiesta glas wedi "colli rheolaeth" a dod oddi ar y ffordd, a bod teithwyr yn y cerbyd hwnnw ymysg y rhai a anafwyd.

NiwgwlFfynhonnell y llun, The Pembrokeshire Herald
Niwgwl

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod dau o bobl wedi dioddef anafiadau difrifol yn y digwyddiad.

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad am 22:40 nos Sadwrn, a'u bod wedi gyrru chwe ambiwlans yno.

Ychwanegodd fod un claf wedi cael ei hedfan i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, bod pedwar wedi cael eu cludo ar y ffyrdd i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, a bod un arall wedi'i gludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe.

Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y car, neu'r rheiny oedd ynddo, i gysylltu â nhw.

Mike Harris
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mike Harris ei bod yn "ffodus" fod dau lawfeddyg a diffoddwyr tân yn aros ar y safle ar y pryd

Dywedodd Mike Harris, sy'n rhedeg y maes gwersylla gyda'i wraig Clare, er bod rhai wedi'u hanafu'n ddifrifol, y gallai fod wedi bod "lot gwaeth".

Dywedodd y bu'n rhaid codi'r car er mwyn rhyddhau pobl oedd yn sownd oddi tano, a bod babi wedi osgoi anafiadau difrifol am ei fod mewn cot.

Ychwanegodd ei bod yn "ffodus" fod dau lawfeddyg a diffoddwyr tân yn aros ar y safle ar y pryd, a'u bod "wedi gallu cymryd rheolaeth a gwneud y gorau o'r sefyllfa".

Dywedodd hefyd fod tua 15 o gerbydau'r gwasanaethau brys wedi cyrraedd y lleoliad yn sydyn iawn.