Arbrawf 20mya mewn ardaloedd preswyl cyn diwedd y mis
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfyngiadau cyflymder o 20mya yn cael eu cyflwyno ar rai o strydoedd preswyl a ffyrdd prysur mewn rhannau o Gymru cyn diwedd y mis.
Daw'r cyhoeddiad am gynlluniau peilot gan Lywodraeth Cymru er gwaethaf gwaith ymchwil sy'n awgrymu bod dros hanner y bobl wnaeth ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus yn gwrthwynebu'r syniad.
Yn ôl Llywodraeth Cymru fe fydd y gostyngiad yn gwneud strydoedd yn fwy diogel ac yn gwella ansawdd bywyd pobl.
Mae nifer o gynlluniau peilot wedi cael eu cyflwyno ar draws Cymru, gyda'r cynllun peilot mwyaf hyd yma yn cychwyn ddydd Gwener yng ngogledd Caerdydd.
"Ry'n ni'n falch iawn o gael chwarae rhan mor amlwg yn hyn," meddai pennaeth Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd, Ann Griffin.
"Fe fydd lleihau'r terfyn cyflymder yn gwneud pethau'n fwy diogel ond yn helpu ni i hyrwyddo mathau gwyrddach o drafnidiaeth fel cerdded a beicio."
Mae ystadegau damweiniau ffyrdd Llywodraeth Cymru'n dangos bod llawer mwy o bobl yn cael eu hanafu mewn digwyddiadau mewn parthau 30mya na mewn parthau 20mya.
Cafodd 1,007 o bobl eu hanafu mewn damweiniau ceir mewn parthau 30mya yng Nghymru yn 2020, o'i gymharu â 50 o bobl mewn parthau 20mya.
Er hynny, dywedodd dros hanner y rhai a ymatebodd i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru nad oedden nhw o blaid gostwgn cyflymder i 20mya.
Fe gafodd bobl eu holi am y syniad o dorri'r uchafswm cyflymder o 30mya i 20mya ar 'ffyrdd cyfyngedig', sef ffyrdd gyda goleuadau stryd arnyn nhw.
Dywedodd dros hanner y 5,607 wnaeth ymateb, 53%, eu bod yn gwrthwynebu'r terfyn 20mya, gyda 47% yn 'gryf yn erbyn' a 6% 'ychydig yn erbyn'.
47% oedd o blaid cyflwyno'r terfyn 20mya, gyda 41% 'yn gryf o blaid' a 6% 'ychydig o blaid'.
'Ddim yn sampl cynrychioliadol'
Roedd y rhai a oedd o blaid y gostyngiad yn credu y byddai'n gwella diogelwch ffyrdd ac ansawdd bywyd.
Roedd y rhai oedd yn gwrthwynebu'r gostyngiad yn credu y byddai'n ymestyn hyd siwrnai, yn ychwanegu at dagfeydd ac yn 'cythruddo gyrwyr'.
Daeth awduron y gwaith ymchwil i'r casgliad "nad oedd yr ymgynghoriad yn arolwg o sampl cynrychioliadol o'r boblogaeth ac o ganlyniad ni ellir cymryd bod y canfyddiadau'n arwydd o farn y cyhoedd yng Nghymru yn gyffredinol".
Mae canlyniadau'r ymgynghoriad yn wahanol i ganfyddiadau arolwg cenedlaethol o 1,000 o bobl yn 2020 oedd yn awgrymu y byddai 80% o oedolion Cymru yn cefnogi terfyn cyflymder o 20mya yn eu hardal, o gymharu ag 20% na fyddai'n cefnogi.
Bydd cynlluniau peilot yn cael eu cyflwyno i ardaloedd ledled Cymru erbyn diwedd mis Mawrth.
Mae'r peilot mwyaf yng ngogledd Caerdydd yn dechrau heddiw, gyda chynlluniau peilot yn Llandudoch, Llanelli, a Bwcle eisoes ar y gweill, a chynlluniau peilot ym Mhentref Cilffriw a'r Fenni yn dechrau fis yma.
'Sioc' a syndod rhai goryrwyr
Mae Madison a Caitlin yn ddisgyblion ym Mlwyddyn 6 yn Ysgol y Felin yn Llanelli, lle mae pobl sy'n cael eu dal yn goryrru wedi bod yn cael dewis eu cosb.
Roedden nhw unai'n cael derbyn dirwy a thriphwynt ar eu trwyddedau, neu yn gallu siarad gyda'r plant.
"Oedden ni'n siarad gyda nhw, a dweud wrthyn nhw bod llai o siawns o'n taro ni a'n lladd ni tasen nhw'n arafu," meddai Caitlin.
"Roedd rhai yn synnu o glywed y gwahaniaeth," meddai Madison.
"Fi'n credu bod rhai wedi cael sioc, ond fi'n credu bod y rhan fwyaf ohonyn nhw'n dweud bod yn flin ganddyn nhw, a llawer ddim wedi sylwi eu bod nhw'n mynd yn rhy gyflym," meddai Caitlin.
"Mae rhai pobl yn gyrru yn arafach nawr, ond dyw rhai ddim yn sylweddoli bod rhaid mynd 20mya tu allan i'r ysgol," meddai Madison.
"Mae'n osgoi damweiniau," meddai Helen Wynne, pennaeth Ysgol y Felin.
"Mae osgoi damweiniau'n rhoi rhagor o gyfleoedd i blant i gerdded i'r ysgol.
"Dwi yn cefnogi'r syniad o 20mya y tu allan i ysgolion drwy Gymru gyfan."
'Her' ceisio newid diwylliant
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth, Lee Waters: "Mae'r dystiolaeth yn glir, mae gostwng cyflymder nid yn unig yn lleihau damweiniau ac yn achub bywydau, ond yn helpu i wella ansawdd bywyd pobl - gan wneud ein strydoedd a'n cymunedau yn lle mwy diogel a chroesawgar i feicwyr a cherddwyr, tra'n helpu i leihau ein heffaith amgylcheddol.
"Fel gydag unrhyw newid diwylliannol rydyn ni'n gwybod ei fod yn cymryd amser i ennill calonnau a meddyliau ac yn anochel fe fyddwn ni'n wynebu rhywfaint o her, ond rydw i'n hyderus os ydyn ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd y gallwn ni wneud y newidiadau angenrheidiol a fydd o fudd i ni nawr ac yn y dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2021