Ysbyty Llwynhelyg: Cyhoeddi digwyddiad mawr mewnol

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty LlwynhelygFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, wedi dechrau gwaith i edrych ar faint ac effaith math peryglus o goncrit yn yr adeilad

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyhoeddi digwyddiad mawr mewnol yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, wrth iddynt fynd ati i geisio darganfod maint ac effaith math o goncrit gall fod yn beryglus yn yr adeilad.

Mae concrit awyrog awtoclaf cyfnerth (RAAC) yn fath o goncrit cafodd ei ddefnyddio'n aml wrth adeiladu rhwng y 1960au a'r 1990au, gan ei fod yn rhatach na'r deunydd adeiladu arferol.

Ond mae eisoes wedi cael ei ddarganfod bod y deunydd, sy'n llawn swigod aer, yn gallu cwympo heb rybudd.

Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod wedi datgan digwyddiad mawr er mwyn mynd i'r afael â'r mater a'u galluogi i weithredu strwythurau gorchymyn a rheoli mewnol.

Nid oes pryder am ddiogelwch yr ysbyty ar hyn o bryd ac mae'r rhan fwyaf o wasanaethau yn parhau fel yr arfer.

Ymchwilio i faint y broblem

Cafodd ei gadarnhau bod RAAC yn bresennol yn Ysbyty Llwynhelyg ac mewn rhan o Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, yn ogystal ag yn eiddo arall y GIG ar draws y DU.

Mewn datganiad dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda: "Drwy alw digwyddiad mawr mewnol, mae'r bwrdd iechyd hefyd yn gallu blaenoriaethu gwaith ein timau i ymdrin â'r mater a manteisio ar gymorth gan asiantaethau partner.

"Rydym yn gweithio gyda chontractwr allanol a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru i nodi maint y broblem - mae hyn yn golygu arolygu pob un o'r planciau RAAC ar y safle."

Ffynhonnell y llun, CommonCreativeLicence
Disgrifiad o’r llun,

Roedd concrit RAAC yn rhad ac yn cael ei ddefnyddio'n aml rhwng y 1960au a'r 1990au

Ychwanegodd y bwrdd bod gwasanaethau'r ysbyty'n parhau i redeg ond bydd ychydig o effaith ar rai. Hyd yma mae tair ward wedi cael eu cau oherwydd cyflwr yr RAAC gafodd ei ddarganfod, gyda chleifion yn cael eu hadleoli i leoliadau arall yn Sir Benfro.

Dywedodd y bwrdd: "Er yr ymdrechion gorau i gynnal gwaith arolygu cyn gynted â phosibl, mae canfyddiadau'r gwaith arolwg mewn rhai achosion yn ei gwneud yn ofynnol i symud cleifion o wardiau i leoliadau eraill ac addasu gwasanaethau i adlewyrchu argaeledd y safle."

Mae'r bwrdd yn annog cleifion i barhau i fynychu eu hapwyntiadau oni bai eu bod yn clywed yn wahanol, ond maen nhw'n ychwanegu y gall pethau newid ar fyr rybudd.

"Dymuna'r bwrdd iechyd ddiolch i staff, cleifion ac ymwelwyr yr ysbyty am eu hamynedd a'u dealltwriaeth dros y misoedd nesaf wrth i ni gynnal y gwaith hanfodol hwn."