Ateb y Galw: Wil Aaron
- Cyhoeddwyd
Yr wythnos yma'r awdur a chynhyrchydd Wil Aaron sy'n Ateb y Galw, wedi iddo gael ei enwebu gan Alun Ffred.
Ffurfiodd gwmni teledu Ffilmiau'r Nant yn 1976, y cwmni a gynhyrchodd raglenni fel Hel Straeon, Sgorio a C'mon Midffild i S4C.
Beth yw dy atgof cyntaf?
Gweld ambiwlans yn tynnu fyny tu allan i'r tŷ yn Aberystwyth a bachgen bach, tua'r un oedran â mi, yn dod allan ac yn cael ei adael ar ein stepen drws. Hwn oedd Eddie Gerrard, faciwî o'r East End yn Llundain. Bu gyda ni am rai misoedd, nes bod y rhyfel drosodd.
Dywedodd fy rhieni wrthyf wedyn na dderbyniodd yr un llythyr oddi wrth ei rieni tra bu gyda ni. Ond derbyniai gopiau o'r Dandy a'r Beano oddi wrthynt yn ddeddfol bob wythnos, wedi eu lapio'n ofalus ac yn llawn cariad. Y tebygrwydd oedd na fedrent ysgrifennu.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Ar un ochr i'r tŷ yma y mae boncen Dinas Dinlle a tri phigyn Yr Eifl draw ar y chwith uwchben Bae Trefor.
Yn llenwi'r gorwel tu ôl i ni mae crib Dyffryn Nantlle, yr Wyddfa wedi ei hanner guddio gan Mynydd Mawr a'r Elidir Fawr ar y chwith.
Ac yn swatio yn eu canol y mae pentref Llandwrog, pentref cynnes, cyfeillgar a hapus, lle rwyf wedi byw am ymron i hanner can mlynedd. Ni fedraf ddychmygu byw mewn lle gwell.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Un o'r noswylion Nadolig hynny efallai, pan fyddai pawb yn y pentref yn gwasgu i'r dafarn i gael peint neu ddau cyn mynd adref i lenwi sane a stwffio twrcwns.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Hapus, bodlon, lwcus.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Ma' 'na gymaint ohonyn nhw ond efallai mai'r mwya' dramatig oedd y gystadleuaeth siarad cyhoeddus yn yr ysgol pan oeddwn i'n bedair ar ddeg (oedran sensitif!).
Yr oeddwn mewn ysgol fonedd yn Lloegr. Fel ffŵl, dewisais areithio ar annibyniaeth i Gymru. Cefais fy heclo'n ddidrugaredd, ceisiais eu hateb, aeth yr heclo'n waeth, fe golles fy limpyn, dechreuodd pawb weiddi, torres allan i grio a gadael y llwyfan.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Hanner awr wedi i mi adael y neuadd mewn dagrau y diwrnod hwnnw, daeth yn amser beirniadu. Y beirniad oedd y dramodydd a'r bardd, Christopher Fry. (Yr oedd ei fab yn ddisgybl yn yr ysgol.)
Wedi traddodi'r feirniadaeth gofynnodd i'r wraig ddaeth gydag e gyflwyno'r gwobrau, neb llai na Marlene Dietrich. Ac wedi iddi orffen, mae'n debyg iddi ychwanegu gair o gydymdeimlad â'r Cymro druan oedd wedi ffoi.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Mae'r llygaid yn llenwi'n aml ond rwyf wedi dysgu sut i stopio'r dagre redeg lawr fy moch.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Rwy'n tueddu i gwmpo i gysgu mewn partis.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Y Llewpart gan di Lampedusa, oherwydd bod y golygfeydd yn aros mor fyw ar fy nghôf, y daith ar draws Sicily i'r hafoty, Tancredi a Angelica yn y ddawns, y tywysog yn hela gyda'i gŵn, ei farwolaeth mewn gwesty llwm yn Palermo.
Ac mae'r ffilm gan Visconti yn cadw yn agos at y gwreiddiol ac yn wych hefyd.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Rhai o griw y rhaglen deledu Heddiw yn y chwedegau cynnar, yn enwedig Nan Davies, ddysgodd gymaint i mi am Gymru.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Rwy'n tueddu i gwmpo i gysgu mewn partis.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud.
Marw.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Yn ein cegin, ma' gynno ni un o luniau Claudia Williams. Fe brynodd fy ngwraig a finne hwn yn fuan wedi i ni briodi. Y mae gofal a chariad y rhieni yn y llun yn amlwg.
Y mae'n llwyddo hefyd i gyfleu diddordeb cynyddol y plant hŷn yn y byd o'u cwmpas. Ac rwy'n gweld rhywbeth o'r Forwyn Fair yn y ffigwr canolig. Bu'n gefndir i'r holl chwerthin a'r holl ddagrau yn tŷ ni o'r cynta' ac mae mor berthnasol i Carys a fi heddiw, fel nain a thadcu, ag y bu erioed.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Edmund Hillary ar Fai 29, 1953.