Cwmni electroneg i greu 250 o swyddi newydd ym Mhowys
- Cyhoeddwyd

Mae Invertek Drives Ltd yn bwriadu ymestyn eu pencadlys yn Y Trallwng gan greu swyddi newydd
Mae cwmni electroneg wedi cyhoeddi cynlluniau i greu 250 swydd newydd ym Mhowys.
Mae pencadlys Invertek Drives Ltd yn Y Trallwng, a dywedodd y cwmni eu bod am gynyddu eu gweithlu dros y pum mlynedd nesaf.
Mae'r cwmni'n arbenigo mewn "technoleg cenhedlaeth nesaf" moduron trydan sy'n cael eu defnyddio mewn technoleg fel aerdymheru a gwresogi ar draws y byd.
Ar hyn o bryd mae 380 o bobl wedi'u cyflogi ar eu safle yng nghanolbarth Cymru.
Cyhoeddodd y cwmni eu cynllun ar ôl datgelu twf yn y busnes o 46% yn 2022, gydag incwm o £76.3m.

Dyma ddarlun o'r cynllun i adeiladu estyniad 2,750 metr sgwâr i'r safle gwreiddiol
Yn gynharach eleni fe wnaeth Invertek datgelu cynlluniau i adeiladu canolfan arloesi a phencadlys newydd wrth ymyl ei safle yn y Trallwng erbyn 2025, ar ôl cael y tir gan Lywodraeth Cymru.
Mae paratoadau terfynol yn cael eu gwneud i'r cais cynllunio cyn iddo gael ei gyflwyno.
Dywedodd y prif weithredwr Adrian Ellam: "Rydym yn barod yn y broses o adeiladu estyniad 2,750 metr sgwâr i'n cyfleuster gweithgynhyrchu a dosbarthu 5,500 metr sgwâr presennol, a fydd yn ein galluogi i gynyddu ein cynhyrchiant i fwy na 1.2 miliwn uned y flwyddyn.
"Bydd hyn yn dod yn gynnar yn 2024 ac, fel canlyniad, byddwn yn creu amryw o rolau ym meysydd cynhyrchu, dosbarthu a pheirianneg gweithgynhyrchu i gefnogi hyn.
"Yn ogystal, rydym yn cynllunio i ehangu ein timoedd arloesi ac ymchwil, a datblygu yn sylweddol i greu technoleg rheoli moduron trydan y genhedlaeth nesaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2023
- Cyhoeddwyd8 Awst 2023
- Cyhoeddwyd3 Awst 2023