Problem llety tymor hir i ffoaduriaid o Wcráin

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Svitlana a Yevheniia Rizina
Disgrifiad o’r llun,

Bu Svitlana a Yevheniia Rizina yn byw gyda theulu yn y brifddinas cyn cael eu rhoi mewn llety dros dro

Mae ffoaduriaid o Wcráin sydd wedi cael eu symud mewn i westy yng Nghaerdydd yn obeithiol mai dim ond dros dro y byddan nhw'n gorfod aros yno.

Fe symudodd Svitlana a Yevheniia Rizina, sy'n fam a merch, i'r gwesty saith wythnos yn ôl ac maen nhw'n disgwyl i'r cyngor ddarparu llety tymor hir iddyn nhw.

Yn ôl Cyngor Ffoaduriaid Cymru, mae hi'n broblem gyffredin.

Dywedodd Cyngor Caerdydd bod na "alw digynsail" am dai ar hyn o bryd.

'Caru Caerdydd yn syth'

Mae dros 7,000 o Wcreiniaid wedi cyrraedd Cymru ers i'r cynllun Cartrefi i Wcráin agor.

Mae tua hanner o'r bobl hynny wedi cael eu cefnogi gan gynllun uwch-noddwr Llywodraeth Cymru, gyda dros 2,000 mewn llety tymor hir.

Fe all llety tymor byr gynnwys gwestai, noddfeydd hosteli a gwely a brecwast.

Ar ôl i'r rhyfel ddechrau yn Wcráin, fe symudodd Svitlana a Yevheniia Rizina, sy'n fam a merch o ddinas Kryvyi Rih, i Gaerdydd.

Fe fuon nhw'n byw gyda theulu o dri yn y brifddinas, sef Andrey, Mali a'u merch.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Svitlana a Yevheniia eu bod wedi syrthio mewn cariad â Chaerdydd

"Fe wnes i ddisgyn mewn cariad gyda Chaerdydd yn syth - y bensaernïaeth, y parciau a natur," meddai Yevheniia.

"A pan wnes i gyrraedd fe wnes i ddisgyn mewn cariad gyda'r bobl. Yr unig beth alla'i ddweud wrth bobl Cymru ydi diolch."

Ar ôl tua blwyddyn, fe symudon nhw o'r tŷ yn y gobaith o ffeindio lle eu hunain, ond fe gafon nhw eu symud gan Gyngor Caerdydd i westy yn y ddinas.

"Roedd o'n siom fawr iddyn nhw ac roedden ni'n poeni mai dyna fyddai'n digwydd," meddai Mali.

"Maen nhw'n bobl mor bositif, a dwi'n meddwl eu bod nhw'n meddwl y bydden nhw'n cael eu rhoi mewn lle hyfryd yn syth bin.

"Fe gafon nhw glywed ar y diwrnod eu bod nhw yn mynd i fod mewn gwesty mewn un stafell, lle doedden nhw ddim yn cael dod â'u cathod efo nhw. 

"Mae'n anodd iddyn nhw yn emosiynol."

Disgrifiad o’r llun,

Svitlana a Yevheniia Rizina gyda Mali yn y tŷ ble'r oedden nhw'n byw ar ôl dod i Gymru

Dywedodd Svitlana bod y staff yn "gyfeillgar iawn", ond nad yw'n ymarferol ar gyfer aros am gyfnod hir.

"Os ydyn ni'n prynu rhywbeth yn y siop does 'na nunlle i'w gadw. Ond ry'n ni'n deall fod hynny dros dro a gobeithio y gallwn ni gael fflat braf neu dŷ."

Fe eglurodd Yevheniia eu bod nhw'n gorfod bwyta allan drwy'r adeg gan nad ydyn nhw'n gallu coginio yn eu hystafell yn y gwesty.

"Mae'n ofnadwy o ddrud," meddai.

Mae'r ddwy yn gobeithio dod o hyd i lety tymor hir yn y misoedd nesaf.

'Galw digynsail'

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Ffoaduriaid Cymru eu bod nhw'n "clywed am y straeon yma drwy'r adeg... miloedd o bobl ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig yn byw mewn llety dros dro".

Ychwanegodd Andrea Cleaver: "Mae'n dorcalonnus oherwydd mae pawb yn haeddu cael cartref, to uwch eu pennau ac elfen o ddiogelwch. Mae aros mewn llety dros dro yn gwneud i bobl deimlo'n ansicr.

"Mae'n anodd iawn i bobl fyw bywydau normal ac mae'r llefydd yn fach iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Prif Weithredwr Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Andrea Cleaver, fod pawb yn haeddu cael cartref

Yn ôl Cyngor Caerdydd maen nhw'n ceisio gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu pobl i symud i lety addas "cyn gynted ag sy'n bosib, ond mae 'na alw digynsail am gartrefi ar hyn o bryd".

Ychwanegodd: "Mae ein tîm cartrefi yn gweithio gyda channoedd o deuluoedd ac unigolion, yn ogystal â mewnfudwyr, i geisio ffeindio llety iddyn nhw."

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n darparu cyllid symud ymlaen gwerth £2m i helpu awdurdodau lleol i gefnogi gwesteion o Wcráin i symud i lety yn y sector rhentu preifat. Rydyn ni hefyd yn galw o hyd am fwy o ddarpar westeiwyr."

Ychwanegodd: "Nid ydyn ni'n gwneud sylwadau ar achosion unigol ond rydyn ni'n annog gwesteiwyr i gael sgyrsiau cynnar gyda'u gwesteion os yw'r amgylchiadau'n newid.

"Rydyn ni hefyd yn annog gwesteion i siarad gyda'u hawdurdod lleol cyn gynted â phosibl er mwyn gallu dechrau ar y gwaith o chwilio am lety amgen."