Ffoaduriaid Wcráin: Llywodraeth Cymru yn gofyn am gymorth
- Cyhoeddwyd
Mae busnesau a sefydliadau Cymreig wedi cael cais i helpu gyda llety a chludiant i ffoaduriaid o Wcráin.
Llywodraeth Cymru wnaeth y cais, gan ofyn am gymorth i ddarparu bwyd a chyfieithwyr.
Mae "canolfannau cyrraedd" hefyd yn cael eu sefydlu yng ngorsafoedd rheilffordd a phorthladdoedd Cymru i ddarparu cefnogaeth ar unwaith, meddai gweinidog.
Mae miliynau wedi ffoi o Wcráin ers diwedd mis Chwefror.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu noddi mil o bobl i ddod i'r DU, ar wahân i'r llwybr nawdd unigol, trwy gynllun a agorodd ddydd Gwener.
Gall pobol sy'n gadael Wcráin ddewis cael eu noddi am fisa gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, yn y Senedd ddydd Mawrth fod gweinidogion yn gofyn i gwmnïau gofrestru eu diddordeb mewn helpu.
"Rydym yn gofyn i fusnesau neu sefydliadau am gymorth i ddarparu llety ar raddfa fawr, trafnidiaeth i fynd â phobl i'w cartrefi newydd, cyflenwadau, fel bwyd, dillad a chynnyrch misglwyf, a chyfieithwyr."
Bydd modd i gwmnïau gofrestru ar wefan Llywodraeth Cymru, meddai.
Mae canolfannau cyrraedd hefyd wedi'u sefydlu mewn porthladdoedd yng Nghymru, gan gynnwys Maes Awyr Caerdydd, porthladdoedd fferi Cymru, a gorsafoedd rheilffordd Caerdydd a Wrecsam.
Dywedodd Ms Hutt y byddai'r canolfannau'n darparu teithio i ganolfan groeso gan Lywodraeth Cymru.
Ar hyn o bryd mae un yn weithredol, lle mae'r Urdd wedi cynnig llety tymor byr i hyd at 250 o bobl, er bod swyddogion Cymru yn cynllunio mwy.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu £1m ar gyfer Cronfa Croeso Cenedl Noddfa, meddai Ms Hutt.
Nod y gronfa, sy'n cael ei rhedeg gan Sefydliad Cymunedol Cymru, yw cefnogi pobl sydd wedi'u dadleoli gan wrthdaro.
Yn y cyfamser mae llinell gymorth wedi'i sefydlu i roi cyngor i bobl sy'n cyrraedd y wlad, a'r rhai sy'n ceisio noddi ffoaduriaid.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y gall y llinell gymorth gael ei galw yn y DU ar 0808 175 1508 a thu allan i'r DU ar 0204 5425671.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2022