Heriau costau byw'n 'taro gwerthwyr Big Issue waethaf'
- Cyhoeddwyd
Mae gwerthwyr y cylchgrawn Big Issue ymhlith y rhai sy'n cael eu "taro waethaf" gan yr argyfwng costau byw, yn ôl un o brif swyddogion y sefydliad.
Yng Nghaerdydd mae nifer y gwerthwyr wedi dyblu dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda phobl yn gwerthu'r cylchgrawn am amrywiaeth o resymau gan gynnwys digartrefedd ac ychwanegu at incwm.
Yn ôl Chris Falchi-Stead, sy'n gyfrifol am dimau rheng flaen, mae cynnydd wedi bod o ran gwerthwyr sydd â "heriau" iechyd meddwl yn sgil yr hinsawdd economaidd presennol.
Ychwanegodd eu bod yn llawer mwy "agored i niwed" ac angen "llawer mwy o gefnogaeth" gan staff.
'Dal i chwilio am lefydd i gysgu'
Roedd Stuart Drucker, 49, o Gaerffili yn ddigartref am y tro cyntaf yn 16 oed, a bu heb gartref am bedair blynedd.
Mae bellach yn rhentu fflat gyda chymorth Credyd Cynhwysol, ond mae wedi cael gwybod yn ddiweddar y bydd ei rent yn cynyddu £100, sy'n achosi pryder mawr iddo.
"Roedd hynny'n dipyn o sioc. Y peth cyntaf roeddwn i'n meddwl oedd 'O, Duw, dwi'n mynd i fod yn ddigartref eto'.
"Does dim modd i fi ddechrau eto. Byddai'n fy lladd i."
Ag yntau bellach bron yn 50 oed, "sefydlogrwydd" yw'r hyn y mae Stuart yn ei ddymuno, sy'n heriol iawn yn yr hinsawdd ariannol presennol.
"Mae arian bob amser yn fy mhoeni. Costau byw, mae'n ofnadwy," meddai.
Mae hynny'n golygu ei fod yn dal yn "chwilio am lefydd i gysgu fel pe bawn i'n ddigartref", wrth gerdded o amgylch y brifddinas.
Roedd digartrefedd yn ffactor a sbardunodd ei alcoholiaeth a'i gamddefnydd o gyffuriau.
"Does neb yn poeni amdanoch chi. Fe allech chi fod yn farw a fydde pobl ddim yn gwybod," dywedodd.
'Mae fy mhlant yn gallu dibynnu arna'i nawr'
Penderfynodd Stuart i fynd i glinig adferiad ar ôl dod yn gaeth i heroin.
Dyma pryd y dechreuodd werthu'r Big Issue bob dydd. Fe roddodd hynny "ffocws" iddo, a'r nod o fod yn un o'r "gwerthwyr gorau o gwmpas".
"Mae help yna, ond mae'n rhaid i chi fod eisiau ei gael," meddai.
Mae'r sefyllfa, meddai, wedi bod yn "anodd iawn yn ddiweddar", gan fod pris y Big Issue wedi cynyddu ac am bod yr esgid yn gwasgu'n gyffredinol.
Mae'n gwerthu'r cylchgrawn, sy'n costio £4, mewn marchnad bob penwythnos yng Nghaerdydd ac mae'n cael cadw £2 o bob rhifyn.
"Mae fy mywyd yn llawer gwell. Rwy'n codi yn y boreau," meddai.
"Dwi'n dal i fod yn bryderus iawn, ond dyw hynny ddim yn deillio o alcohol a chyffuriau. Mae gen i reolaeth dros fy arian fy hun a fy mywyd fy hun.
"Y peth gorau yw bod fy mhlant yn gallu dibynnu arna'i nawr."
'Roedden nhw'n credu ynof i'
Dywedodd Stuart fod y Big Issue wedi ei "achub", a'i freuddwyd yw ceisio bod yn weithiwr cymorth gyda'r sefydliad.
"Rwy'n adnabod llawer o bobl ar y strydoedd sy'n defnyddio cyffuriau, a dwi am eu helpu - dwi ddim yn hoffi eu gweld nhw'n gwaethygu," meddai. "Maen nhw'n ffrindiau i fi, rhai ohonyn nhw, a dwi wedi colli gormod ohonyn nhw.
"Doedd gen i ddim swydd, dim arian, dim byd. Roeddwn i'n eistedd ar y llawr, daeth rhywun a fy nghodi a dweud wrtha'i i ddechrau gwerthu'r Big Issue. Dechreuodd pethau wella'n syth."
Mae Louis Paul Hague, 27, wedi bod yn gwerthu'r Big Issue ers tua dwy flynedd, ar ôl iddo wynebu digartrefedd. Roedd heb gartref am wyth mis.
"Y rhan anoddaf oedd mynd i'r toiled a golchi - y pethau dynol hynny y mae angen i chi eu gwneud, i fyw," meddai.
Yn ystod ei amser yn byw ar y strydoedd, datblygodd Louis ddibyniaeth ar y cyffur Spice. Fe ddisgrifiodd y profiad fel "uffern". Mae bellach oddi ar y cyffur, ac wedi bod yn rhentu ers saith mlynedd.
"Roedd y Big Issue yn gymorth mawr. Roedden nhw'n bendant yn credu ynof i," meddai.
"Mae gen i ddillad bob amser nawr. Mae fy miliau bob amser yn cael eu talu ar amser. Mae fy rhent yn dda. Mae fy nhrydan ymlaen drwy'r amser."
Dywedodd Louis, sydd ag ADHD, fod gwerthu'r cylchgrawn wedi rhoi pwrpas iddo a'i fod hyd yn oed yn ei werthu pan oedd ganddo swydd mewn siop, er mwyn cynyddu ei incwm.
Mae wedi bod yn ddi-waith ers tua tri mis sydd, meddai, yn ei "ladd".
"Dwi wedi bod yn dosbarthu fy CVs ym mhobman. Rwy'n cael llond bol bod dim byd yn digwydd," meddai.
Mae Louis yn awyddus i wneud unrhyw swydd i gael arian ychwanegol yn ei boced ac i "wella ei fywyd".
Tra ei fod yn aros i sicrhau swydd, mae Louis yn gwerthu'r cylchgrawn yng nghanol Caerdydd bob dydd.
"Hebddyn nhw dwi ddim yn gwybod lle byddwn i ar hyn o bryd - yn eistedd ar y stryd yn cardota, mwy na thebyg," meddai.
"Roedden nhw'n credu ynof i, ac rydw i'n credu ynof fy hun ychydig yn fwy."
'Pob math o werthwyr'
Dywedodd Chris Falchi-Stead o'r Big Issue bod cynnydd "digynsail" yn nifer y gwerthwyr newydd dros y flwyddyn ddiwethaf.
"Rydyn ni wedi gweld cynnydd o 10% yn nifer y bobl sy'n dod atom ni i fod yn werthwyr dros y flwyddyn ddiwethaf, sy'n mynd i ddangos faint mae argyfwng costau byw yn dechrau effeithio ar bobl mewn gwirionedd," meddai.
Yng Nghaerdydd yn unig, mae nifer y gwerthwyr wedi dyblu o gymharu â'r adeg yma y llynedd.
Roedd Chris yn pwysleisio bod gwerthwyr y Big Issue nid yn unig yn bobl ddigartref, ond yn "bobl y mae tlodi'n difetha eu bywydau".
Ychwanegodd eu bod yno i helpu unrhyw un sy'n cerdded drwy eu drysau.
Dros y blynyddoedd, meddai, mae pwrpas y Big Issue wedi esblygu, ac erbyn hyn mae gwerthwyr yn amrywio o bobl ddigartref, i bobl ddi-waith neu hyd yn oed yn bobl sy'n "chwilio am ffordd i ennill ychydig mwy o arian".
Mae'n awyddus i "chwalu'r stigma" sy'n gysylltiedig â gwerthu'r Big Issue.
"Mae unrhyw un sy'n dod i werthu'r cylchgrawn wedi gwneud y penderfyniad dewr iawn yna eu bod nhw eisiau gweithio'u ffordd allan o dlodi," meddai.
"Mae pobl yn gyfreithlon yn ceisio ennill incwm heb gardota. Mae'n beth anodd i'w wneud o ddydd i ddydd, ym mhob tywydd, a gwerthu'r cylchgrawn yn yr hinsawdd sydd ohoni."
'Awydd y boblogaeth i helpu yn fyw'
Dywedodd hefyd fod costau byw wedi achosi "cynnydd yn nifer y gwerthwyr sy'n cael heriau gyda'u hiechyd meddwl", gan achosi iddyn nhw fod yn "llawer mwy bregus" ac angen "llawer mwy o gefnogaeth".
Ychwanegodd fod hyn yn "bryderus", a'u bod yn gwneud popeth i gefnogi gwerthwyr.
Er gwaethaf yr anawsterau ariannol, mae'n credu bod "awydd y boblogaeth i helpu yn bendant yn fyw".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer y rhai sydd ei angen fwyaf".
Ychwanegodd eu bod yn cydnabod effaith sylweddol chwyddiant ar bobl sy'n cael trafferth talu biliau hanfodol, gan gynnwys costau tai, a'u bod yn buddsoddi dros £210m mewn atal digartrefedd eleni.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2020