Strydoedd tawel yn ergyd i werthwyr cylchgrawn Big Issue

  • Cyhoeddwyd
Kelvin Lloyd

Mae un o werthwyr cylchgrawn y Big Issue yng Ngwynedd yn dweud fod gorfod rhoi'r gorau i werthu'r cylchgrawn ar y strydoedd am y tro wedi cael effaith ddifrifol ar ei iechyd meddwl.

Yn ôl Kelvin Lloyd, sy'n gymeriad adnabyddus ar strydoedd Caernarfon, mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn "uffernol" wedi i'r Big Issue orfod rhoi'r gorau i werthiant ar y strydoedd oherwydd yr argyfwng coronafeirws.

Mae'r cylchgrawn yn dweud eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi dros 2,000 o'u gwerthwyr yn ariannol ac yn emosiynol.

Ond maen nhw'n cydnabod fod nifer ohonyn nhw'n dioddef, gydag unigrwydd yn broblem fawr.

'Siarad efo pobl'

"Mae o wedi gneud uffernol o wahaniaeth," meddai Kelvin wrth raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru.

"Dwi ddim yn gwybod be' i 'neud efo fi fy hun."

Mae'n dweud fod dechrau gwerthu'r cylchgrawn wedi bod yn achubiaeth iddo.

"Mae o'n bwysig uffernol, achos mae o'n cael fi allan i Gaernarfon bob dydd i gael siarad efo pobl.

"'Di o ddim byd i 'neud efo pres really - jyst bo' fi'n cael siarad efo pobl, ac mae o'n helpu iechyd pen fi."

Dywedodd fod y Big Issue wedi ei ffonio i holi sut oedd o ar ôl i'r cyfyngiadau ddod i rym, ac wedi rhoi taleb gwerth £25 iddo brynu bwyd.

Roedden nhw hefyd wedi dweud wrtho am gysylltu os oedd angen mwy o gymorth arno.

Mae'r Big Issue yn dweud eu bod nhw'n "ymwybodol iawn" o'r effaith mae'r penderfyniad i beidio gwerthu'r cylchgrawn wedi ei gael ar eu gwerthwyr.

Maen nhw wedi lansio apêl am arian, gyda hanner y rhoddion yn mynd i'r gwerthwyr, ac mae tîm o bobl yn gweithio ddydd a'r nos i geisio cadw cysylltiad â nhw er mwyn cynnig cefnogaeth.