Croeso i gynllun amddiffyn Aberaeron rhag stormydd

  • Cyhoeddwyd
Aberaeron
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun gwerth £32m yn Aberaeron wedi cael ei ddisgrifio fel un "hanfodol" gan gynghorydd lleol

Mae yna groeso brwd wedi bod yn lleol i'r newyddion y bydd bron i £32m yn cael ei wario ar fesurau i amddiffyn Aberaeron rhag stormydd y dyfodol, yn sgil bygythiad newid hinsawdd.

Bydd £26.85m yn dod o gronfeydd rhaglen rheoli risg arfordirol Llywodraeth Cymru, gyda Chyngor Sir Ceredigion yn cyfrannu £4.74m.

Mae'r cynllun i amddiffyn rhag stormydd wedi cael ei ddisgrifio fel un "hanfodol" gan y cynghorydd lleol, Elizabeth Evans.

Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu gymryd 18 mis.

Mae'r cynllun wedi cael ei ddatblygu ar y cyd gan y cyngor a chwmni peirianyddol Atkins dros gyfnod o bum mlynedd.

Yn ôl yr aelod cabinet ar gyfer priffyrdd, gwasanaethau amgylcheddol a rheoli carbon, Keith Henson, mae'n hanfodol bod y cynllun yn cael ei wireddu yn sgil bygythiad newid hinsawdd.

'Derbyn bod rhaid i hyn ddigwydd'

Bu'n rhaid cau Pen Cei yn Aberaeron yn dilyn stormydd ym mis Rhagfyr 2013, Ionawr 2014 a Hydref 2017, wrth i ddŵr y môr orlifo dros yr amddiffynfeydd presennol o fewn yr harbwr a'r traeth deheuol.

Roedd yna lifogydd difrifol hefyd yn 2008.

Yn ôl y cynghorydd Elizabeth Evans, mae yna groeso cynnes wedi bod i'r newyddion yn nhref Aberaeron ymhlith busnesau a thrigolion.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cynghorydd Elizabeth Evans fod pobl leol yn deall pwysigrwydd y prosiect

Dywedodd: "Mae'r ymateb wedi bod mor bositif. Hir yw pob aros, ond o'r diwedd mae'r prosiect yn symud ymlaen.

"Mae fe mor hanfodol a fi'n credu mae pobl yn deall 'na. Mae pobl sydd yn byw yma yn derbyn bod rhaid i hyn ddigwydd."

Dywedodd ei bod hi'n awyddus i drefnu cyfarfod gyda'r cwmni fydd yng ngofal y gwaith er mwyn osgoi unrhyw effaith ar fusnesau twristiaeth dros yr haf y flwyddyn nesaf.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cynghorydd Keith Henson y bydd y cynllun yn diogelu eiddo a busnesau rhag effeithiau newid hinsawdd

Fe gyfaddefodd y cynghorydd Keith Henson hefyd ei bod yn rhyddhad bod yr arian wedi dod i law ar adeg o gwtogi i gynghorau.

"Ni'n falch iawn o'r buddsoddiad," meddai.

"Wrth feddwl am sut mae'r hinsawdd yn newid dros y blynyddoedd, mae eisiau i ni sicrhau bod ni'n rhoi'r cynlluniau mewn lle.

"Ni'n hyderus bod y cynllun mynd i ddiogelu eiddo a busnesau yn y dref."

'Eisiau buddsoddiad ers blynyddoedd'

Mae un o hwylwyr brwd y dref hefyd yn falch o weld y buddsoddiad.

Yn ôl Glyn Heulyn, sydd wedi bod yn defnyddio'r harbwr ers 25 mlynedd, mi fydd codi morglawdd newydd o bier y gogledd yn gwella diogelwch i hwylwyr sydd yn mynd a dod o Aberaeron.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Glyn Heulyn ei fod yn falch iawn o weld y cynlluniau'n cael eu gweithredu

"Mae eisiau buddsoddiad ers blynyddoedd," meddai.

"Mae'r pier deheuol yn cwympo lawr, yn ara' bach. Dwi'n falch i weld bod hwnna yn mynd i gael ei atgyweirio.

"Unrhyw bryd mae storom o'r gogledd-orllewin mae'r tonnau yn dod mewn i'r harbwr a lot o gychod yn y cefn yn suddo bob blwyddyn, felly mae eisiau'r wal ogledd yma i roi cysgod o'r gogledd orllewin."

Ychwanegodd: "Cafodd yr harbwr ei adeiladu rhyw 200 mlynedd 'nôl gan Alban Gwynne, ac ail ran ei gynllun oedd braich yn mynd mas o'r ochr ogleddol fel sy'n mynd i ddigwydd nawr.

"Mae e 220 o flynyddoedd yn ddiweddarach, ond ni'n mynd i gael y cysgod i'r harbwr."

Beth fydd y mesurau?

Dyma rhai o'r mesurau sydd yn rhan o'r cynllun newydd:

  • Adeiladu morglawdd creigiau newydd sy'n ymestyn allan o Bier y Gogledd;

  • Adnewyddu ac ailadeiladu pen pier Pier y De, gan gynnwys atgyweirio waliau;

  • Adeiladu argae yn y lleoliadau canlynol: Wal gerrig a gwydr newydd ar hyd Pen Cei, codi argae presennol Afon Aeron rhwng cefn Y Seler a'r A487 ac adeiladu wal llifogydd cerrig a gwydr newydd rhwng Pwll Cam a'r Seler;

  • Adeiladu llifddor yn harbwr mewnol Pwll Cam;

  • Gwelliannau i'r amddiffynfeydd presennol ar Draeth y De, gan gynnwys disodli'r grwynau pren presennol; disodli ac ymestyn y wal gynnal creigiau presennol a chynllun adfer y traeth o'r newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Cwmni BAM Nuttall fydd yn gyfrifol am gwblhau'r cynllun

Cwmni BAM Nuttall fydd yn gyfrifol am y gwaith adeiladu - yr un cwmni a gwblhaodd waith Traeth y Gogledd Aberaeron yn llwyddiannus yn 2009, ac oedd yng ngofal dau gam cyntaf cynllun amddiffyn arfordirol Borth i Ynyslas yn 2012 a 2015.

Yn ôl y cynghorydd Keith Henson y gobaith yw dechrau ar y cynllun erbyn diwedd y flwyddyn, ac fe fydd hi'n cymryd rhyw 18 mis i gwblhau'r gwaith.

Pynciau cysylltiedig