Pam fod tai Aberaeron mor lliwgar?

  • Cyhoeddwyd
Tai lliwgar Aberaeron

Wrth deithio ar hyd arfordir Cymru rhwng y De a'r Gogledd mae'n amhosib peidio sylwi ar dref liwgar Aberaeron.

Yn un rhes ar ôl y llall mae tai lliwgar y dref yn sefyll allan ac yn rhan annatod o hanes a chymeriad y dref bysgota.

Disgrifiad,

Pam fod tai lliwgar yn Aberaeron?

Does dim rheol bendant, ac yn wahanol i gredoau rhai pobl, does dim cyfraith leol anffurfiol chwaith yn bodoli sy'n gorfodi trigolion Aberaeron i liwio eu tai.

Ond, mae'r bobl leol wedi croesawu'r thema sy'n bodoli ers y 1960au.

Yn ôl Elinor Ingham, sy'n aelod o grŵp Cyfeillion Aberaeron, roedd y tai yn llwydaidd iawn, cyn i berchnogion y Llew Du baentio'r adeilad yn lliw du a gwyn ar ddechrau'r 1960au.

"Wedyn, nes mlaen, daeth menyw o'r enw Mrs Sewell. Saesnes oedd hi, a brynodd hi Portland House. Tŷ hen wedi cael ei adeiladu yn yr 1850au a fe 'nath hi baentio'r tu allan yn binc.

"Roedd hi'n cadw gwely a brecwast yna. Mae wedi mynd ymlaen ac ymlaen dros y blynyddoedd.

Disgrifiad o’r llun,

Aberaeron - cyn, ac ar ôl y lliw

"Penderfyniad y bobl leol yw e pwy lliw maen nhw eisiau ddewis. Mae'r rhan fwyaf o'r bobl yn hoffi beth maen nhw wedi 'neud," meddai.

Gwyliwch ragor am hanes tai lliwgar Aberaeron.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig