Neges hyfryd Rob Page i Dafydd Iwan ar ei ben-blwydd yn 80
- Cyhoeddwyd
Recordiodd rheolwr y tîm pêl-droed cenedlaethol neges hyfryd i nodi pen-blwydd Dafydd Iwan yn 80
Mae rheolwr tîm pel-droed Cymru, Rob Page, wedi rhannu neges ben-blwydd arbennig gyda Dafydd Iwan.
Wrth ddymuno pen-blwydd hapus i'r canwr yn 80 mlwydd oed fe ddiolchodd iddo am ei ran yn un o "brofiadau mwyaf anhygoel" ei yrfa.
Roedd yn sôn am y diwrnod y canodd Dafydd Iwan Yma o Hyd gyda llond stadiwm o gefnogwyr yn cyd-ganu yn llawn emosiwn cyn y gêm aeth â Chymru i Gwpan y Byd ar Fehefin 5, 2022.
"Roedd y cysylltiad oedd gennym ni gyda'r cefnogwyr, y teimlad yn y stadiwm cyn i ni hyd yn oed fynd ar y cae, yn anhygoel," meddai am y gêm yn erbyn Wcráin.
Ac roedd presenoldeb Dafydd Iwan ac Yma o Hyd yn rhan enfawr o hynny meddai Rob Page.
"Y teimlad roddodd hynny i'r stadiwm, yr hwb; yn bendant fe chwaraeodd ran i'n helpu ni i godi'n gêm a chael y canlyniad roedden ni ei angen, felly dwi eisiau diolch am hynny."
Ychwanegodd: "Ro'n i'n teimlo balchder mawr dy fod ar y cae gyda ni y diwrnod hwnnw, yn rhannu'r profiad.
"Mae'n rhaid fod gwylio'r stadiwm yn canu'r gân wedi bod... wel, dwi wedi gweld y lluniau, dwi'n gwybod ei fod yn ddiwrnod emosiynol i ti hefyd," meddai
Soniodd hefyd am ddylanwad y gân, nid yn unig ar bêl-droed yng Nghymru, ond ar Gymru yn gyffredinol.
Datgelodd bod gwylio Dafydd Iwan yn canu Yma o Hyd wedi cael effaith fawr ar ei fab, sy'n gapten ar dîm pêl-fasged Cymru dan 16.
Er eu bod fel teulu yn byw yn Sheffield, fe ddewisodd Yma o Hyd fel y gân i godi ysbryd ei dîm.
"Mae'n mynd ymlaen ac ymlaen a dwi'n teimlo'n falch iawn i fod yn rhan ohono," meddai Rob Page am ddylanwad Yma o Hyd.
Pen-blwydd hapus Dafydd Iwan!