'Mae snorclo mewn cors yng Nghymru wedi achub fy mywyd'
- Cyhoeddwyd
I'r mwyafrif o bobl, fe fyddai snorclo trwy gors dywyll a brwnt yn brofiad hunllefus i'w osgoi ar bob cyfri, ond i un fenyw roedd awydd i gystadlu ym mhencampwriaeth byd y gamp yn sbardun iddi wella o salwch a dysgu cerdded eto.
Yn 25 oed, roedd Julia Galvin mewn poen difrifol ac angen ffrâm i gerdded i ac o'i gwely ysbyty, ac "yn teimlo bod fy mywyd ddim werth ei fyw".
Ond fe gafodd ei hysbrydoli gan lun o gystadleuwr ym Mhencampwriaeth Snorclo Cors y Byd, sy'n cael ei chynnal ger Llanwrtyd ym Mhowys ers 1986, ac roedd hi'n benderfynol o gymryd rhan ei hun.
O fewn blwyddyn, ar ôl gorfod dysgu nofio gyntaf, fe gystadlodd yn y digwyddiad blynyddol yn Llanwrtyd, gan ddod yn ail ym mhencampwriaeth 1999.
'Meca snorclo cors'
Mae hi'n grediniol mai'r ŵyl wnaeth "achub fy mywyd".
"Oni bai am Gymru, fyswn i ddim yn fyw," dywedodd, dan emosiwn.
"Pan rwy'n dod yma, mae'n teimlo 'mod i adref. Mae ganddo le arbennig yn fy nghalon. Cymru yw Meca snorclo cors."
Ar ei gwaethaf, roedd Julia'n cymryd 16 o dabledi y diwrnod yn yr ysbyty at boenau problem gyda'i chefn a chlunwst (sciatica) i lawr ei dwy goes.
"Roedd fy mywyd wir ddim yn werth i fyw... ro'n i fod i gael llawdriniaeth i fy nghefn ond dywedodd y meddygon fy mod ar ormod o dabledi i'w chael," dywedodd.
"Fe roddodd ffrind y Guinness Book of Records i mi ac mi welais ddyn yn dod allan o gors yng Nghymru.
"Rwy'n byw ar dir corsiog yn Iwerddon ac o'n i wastad wedi cael fy rhybuddio am beryglon cors, felly roedd y llun yna'n agoriad llygad i mi ac ro'n i eisiau ei wneud e.
"Do'n i erioed wedi nofio o'r blaen ond ro'n i angen nofio i helpu fy adferiad, a chystadlu yng Nghymru oedd fy nod o ran gwella a rwy' heb edrych yn ôl ers hynny - fe newidiodd fy mywyd."
'Mae'n brofiad rhyfedd iawn'
Mae'r bencampwriaeth byd yn cael ei chynnal dros y penwythnos a bob blwyddyn mae yna bobl sy'n teithio o ben arall y byd i snorcelu 120 llath drwy ffos fwdlyd mewn cae ger Llanwrtyd lle mae defaid yn pori weddill y flwyddyn.
Mae unrhyw un sy'n dod i'r bencampwriaeth gyda'r offer cywir - flippers, mwgwd a snorcel - yn cael cystadlu, gan dalu £20 i gymryd rhan.
Eleni fe fydd Neil Rutter - a osododd record byd yn 2018, sef munud ac 18.81 eiliad - yn anelu at ennill y ras am y bumed blwyddyn yn olynol.
Mae Julia, sy'n athrawes lanw, yn cydnabod ei fod "yn brofiad rhyfedd iawn".
"Mae popeth yn dywyll ac yn oer, a gallwch chi ddim mynd yn rhy sydyn... mae'r ffos ond yn dair troedfedd o ddyfnder ac o gwmpas tair troedfedd o led felly gallwch chi ddim suddo'n bell.
Ei chyngor yw i "anadlu, mynd yn araf a mwynhau'r profiad".
Mae sawl wyneb cyfarwydd wedi cymryd rhan yn y bencampwriaeth gan gynnwys cyflwynydd tywydd BBC Cymru, Derek Brockway.
"Dyna oedd y peth anoddaf i mi wneud yn fy mywyd," meddai.
"Nes i ymlusgo trwy'r dŵr oherwydd doedd gen i ddim digon o egni, ond fe wnaeth y dorf fy nghymeradwyo ac fe wnaeth yr awyrgylch fy ysbrydoli i orffen."
Am y tro cyntaf, mae trefnwyr y bencampwriaeth ddeuddydd yn cynnal bogathon, ble bydd cystadleuwyr yn snorclo am 60 llath, yn reidio beic traws gwlad am ddwy filltir ac yna'n rhedeg traws gwlad am filltir.
Mae'r digwyddiad wedi helpu i roi Llanwrtyd ar y map - syniad a gododd yn ystod cyfarfod o bobl fusnes mewn tafarn leol i drafod ceisio denu mwy o ymwelwyr i'r dref.
Mae digwyddiadau eraill yn cynnwys ras Dyn v Ceffyl a Phencampwriaeth Sglentio Carreg ar Draws Dŵr.
Erbyn hyn mae tua 200 o bobl - tua chwarter poblogaeth y dref - yn gwirfoddoli i helpu eu cynnal, ac mae busnesau lleol yn elwa o'r hwb i'r economi leol.
"Maen nhw'n wirioneddol bwysig i ni oherwydd maen nhw'n denu gymaint o bobl fyddai, mwyaf tebyg, ddim yn gwybod ein bod ni yma fel arall," dywedodd Lindsey Greenough, sy'n rhedeg Caffi Sosban ar sgwâr y dref.
Pan fo un o'r digwyddiadau yma ymlaen, dywed Lindsey bod ei chaffi'n llawn ac mae "pobl yn ciwio i lawr y lôn".
Yn ôl Charlotte Christie, o garej Llanwrtyd Wells Auto Services, mae'r awyrgylch "yn adlais" o sut fyddai'r hen dref ffynnon wedi teimlo yn ystod dyddiau Oes Fictoria "pan fyddai'r gwestai wedi bod yn llawn, y strydoedd yn brysur a'r siopau dan ei sang".
Ychwanegodd: "Mae'n braf gweld wynebau newydd yn y dref."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Awst 2016