Ymchwiliad Llaneirwg: Dedfrydu dyn am yrru heb drwydded

  • Cyhoeddwyd
Joel LiaFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Joel Lia ei wahardd rhag gyrru am chwe mis am yrru heb drwydded

Mae dyn 28 oed wedi cael ei dedfrydu am droseddau gyrru fel rhan o ymchwiliad i wrthdrawiad a laddodd dri pherson yng Nghaerdydd.

Nid oedd Joel Samuel Lia o Dredelerch, Caerdydd yn y gwrthdrawiad ar 4 Mawrth, ond roedd wedi gyrru'r car roedd y grŵp yn teithio ynddi yn ôl o Borthcawl i dŷ ei chwaer yn Llanedeyrn awr cyn y digwyddiad.

Roedd dogfennau gafodd eu dangos i Ynadon Caerdydd yn dangos Lia yn gyrru'r car er nad oedd ganddo drwydded lawn.

Dywedodd Lia ei fod wedi gyrru'r cerbyd am fod y bobl eraill yn y car yn feddw ​​ar ôl yfed ac anadlu ocsid nitraidd.

Fe wnaeth Lia gyfaddef gyrru car heb drwydded nac yswiriant ym Mhorthcawl ar 4 Mawrth 2023.

Ffynhonnell y llun, Cyfryngau cymdeithasol
Disgrifiad o’r llun,

Y tri a fu farw yn y gwrthdrawiad - Darcy Ross, Rafel Jeanne ac Eve Smith

Nid yw'r cyhuddiadau'n gysylltiedig â'r gwrthdrawiad wnaeth ladd Eve Smith, 21, Darcy Ross, 21 a Rafel Jeanne, 24 ac achosi anafiadau difrifol i Shane Loughlin, 32, a Sophie Russon, 20.

Am tua 02:00 ar 4 Mawrth fe wnaeth y Volkswagen Tiguan roedd y grŵp yn teithio ynddi wyro oddi ar y ffordd.

Cafodd y pum person yn y car eu canfod ar 6 Mawrth - 46 awr wedi'u gwrthdrawiad.

Mae ymchwiliad yn parhau i gael ei gynnal i'r amser y cymerodd i Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru ddod o hyd i'r grŵp.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymchwiliad i weithredoedd Heddlu'r De a Heddlu Gwent bellach yn cael ei gynnal

Mae Lia wedi cael ei wahardd rhag gyrru am chwe mis, a bydd yn rhaid iddo dalu dirwy o £120 am yrru heb yswiriant.

Bydd hefyd yn gorfod talu £48 o ordal a £90 am gostau.

Ni chafodd gosb ar wahân am yrru heb drwydded.