Teithwyr gwrthdrawiad Llaneirwg 'ar nwy chwerthin'

  • Cyhoeddwyd
Darcy Ross, Rafel Jeanne, Eve SmithFfynhonnell y llun, Cyfryngau cymdeithasol
Disgrifiad o’r llun,

Y tri a fu farw yn y gwrthdrawiad - Darcy Ross, Rafel Jeanne ac Eve Smith

Roedd y bobl ifanc a fu farw wedi gwrthdrawiad ar gyrion Caerdydd ym mis Mawrth wedi bod yn yfed ac yn anadlu ocsid nitraidd y noson honno, yn ôl un o'u cyfeillion.

Bu farw Darcy Ross, Eve Smith a'r gyrrwr Rafel Jeanne yn y digwyddiad ar gylchfan ar ffordd yr A48(M) yn Llaneirwg ym mis Mawrth.

Fe wnaeth dau arall oedd yn y car ddioddef anafiadau, ac mae dogfennau llys yn datgelu bod y dioddefwyr "yn feddw" y noson honno.

Roedd y dogfennau hynny'n ymwneud ag achos chweched teithiwr oedd wedi bod yn gyrru'r un car yn gynharach yr un noson, ond oedd wedi gadael y Volkswagen Tiguan cyn iddo lithro oddi ar y ffordd i ardal goediog.

Roedd Joel Lia, sy'n 28 oed ac o Dredelerch, wedi gyrru'r car ar hyd traffordd yr M4 o Borthcawl i dŷ ei chwaer yn ardal Llanedern yn oriau mân y bore.

Doedd dim trwydded yrru ganddo ac fe gafodd ei gyhuddo o droseddau moduro.

Mae wedi pledio'n euog i yrru heb drwydded nag yswiriant, ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu cyn diwedd y mis.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Pobl yn gosod teyrngedau a blodau ger y lleoliad lle cafwyd hyd i'r car

Mae'r dogfennau llys yn ei achos yn datgelu iddo ddweud wrth yr heddlu fod pawb yn y grŵp wedi bod yn yfed alcohol ac yn anadlu ocsid nitraidd - neu nwy chwerthin - y noson honno.

Daeth yr heddlu ddim o hyd i'r car tan 46 awr wedi'r gwrthdrawiad.

Mae'r oedi cyn i Heddlu Gwent a Heddlu'r De ddod o hyd i'r grŵp ar ôl cael gwybod eu bod ar goll yn destun ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, yr IOPC.

Clywodd agoriad y cwest fod y tri a fu farw wedi marw yn y fan a'r lle, ac fe gafodd y gwrandawiad ei ohirio er mwyn disgwyl am ganlyniadau rhagor o brofion histoleg a thocsicoleg.