Gwrthdrawiad angheuol: Ymchwiliad i swyddog Heddlu Gwent

  • Cyhoeddwyd
Darcy Ross, Rafel Jeanne, Eve SmithFfynhonnell y llun, Cyfryngau cymdeithasol
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Darcy Ross, Rafel Jeanne ac Eve Smith yn dilyn y digwyddiad

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ystyried a oes achos o gamymddygiad yn ei swydd yn erbyn aelod o Heddlu Gwent yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ger Caerdydd ym mis Mawrth lle bu farw tri o bobl ifanc.

Dywed yr IOPC eu bod yn casglu tystiolaeth ynglŷn â swyddog oedd yn adolygu rhestr pobl ar goll, ac i weld a wnaed asesiadau risg cywir.

Maent hefyd yn ymchwilio i weld a wnaeth oedran y bobl ifanc chwarae rhan yn rhai o benderfyniadau'r swyddog.

Mae ymchwiliad ehangach yr IOPC yn ymwneud â'r modd y gwnaeth heddluoedd Gwent a De Cymru ymateb i adroddiadau fod pump o bobl ar goll.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y car ei ganfod 46 awr ar ôl i'r heddlu dderbyn adroddiadau fod y pump ar goll

Bu farw tri o'r pump - Eve Smith, 21, Darcy Ross, 21, a Rafel Jeanne, 24 - yn y gwrthdrawiad ger yr A48 yn Llaneirwg ar 4 Mawrth.

Cafodd dau berson arall - Sophie Russon, 20, a Shane Loughlin, 32 - anafiadau difrifol.

Fe gafodd y car ei ganfod yn oriau mân y bore ar 6 Mawrth - 46 awr ar ôl i'r heddlu dderbyn adroddiadau fod y pump ar goll.

Dywed yr IOPC eu bod hefyd yn siarad gyda Gwasanaetha Awyr Cenedlaethol yr Heddlu ynglŷn â rôl hofrennydd yn y gwaith chwilio.