'Dirwy o £1,000 i atal parcio anghyfreithlon yn Eryri'

  • Cyhoeddwyd
Cerbydau'n cael eu symudFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cerbydau'n cael eu symud o'r Ben-y-Pass ar odre'r Wyddfa yn gynharach eleni

Mae anturiaethwr a chyflwynydd teledu yn galw am roi dirwy o £1,000 i bobl sy'n parcio'n anghyfreithlon yn Eryri, gan rybuddio bod yr ardal mor brysur nes bod dim lle i ymdopi â mwy o ymwelwyr a digwyddiadau.

Dywed Dilwyn Sanderson-Jones ei fod yn "gwrthod" tywys ymwelwyr i fyny'r Wyddfa mwyach am fod y sefyllfa ar fynydd uchaf Cymru wedi troi'n "syrcas" wrth i gymaint giwio i gyrraedd y copa.

Fe amlinellodd y gŵr sy'n aelod o dîm diogelwch arbenigol rhaglenni Bear Grylls ei bryderon fel golygydd gwadd rhaglen Dros Frecwast ddydd Gwener.

"Does dim lle i fwy o betha' mewn ffordd, os ydi pobl yn parcio lle bynnag ma' nhw isio parcio a 'neud beth bynnag ma' nhw isio 'neud," meddai.

Disgrifiad,

Dilwyn Sanderson-Jones: Angen "ffein o £1,000" am barcio anghyfreithlon

"Dwi'n meddwl mae'n cyrraedd pwynt lle rhaid i ni fod yn ofalus iawn neu fyddan ni methu troi'n ôl."

Mae'r cynnydd yn niferoedd ymwelwyr ers Covid yn broblem, meddai, a'r ffaith bod rhai "ddim yn dallt y peryg o rai o'r petha' ma' nhw'n neud ar ôl cyrraedd".

Mae'r awdurdodau wedi gorfod towio ceir o ardaloedd Pen-y-Pass a Llyn Ogwen, gan fod parcio ar ymyl ffyrdd yn gallu creu trafferthion i gerbydau'r gwasanaethau brys.

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai gyrwyr yn parhau i anwybyddu'r trefniadau parcio, ac yn fodlon talu'r ddirwy, medd Dilwyn Sanderson-Jones

Dywed Dilwyn Sanderson-Jones bod Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri "yn trio'u gorau i ddatrys y broblem", ond mae'n ofni taw "pres pocad" yw'r ddirwy bresennol am barcio'n anghyfreithlon.

Mae rhai o'r "bobl sy'n dreifio o'r dinasoedd", awgrymodd, yn fodlon talu'r gosb am adael eu cerbydau yn y llefydd sydd mwyaf cyfleus iddyn nhw.

'Dwi'n gwrthod mynd ar Yr Wyddfa'

"Os 'di rhywun yn parcio lle 'dyn nhw ddim i fod, gwna ffein o £1,000," dywedodd, gan awgrymu y byddai hynny'n achosi pobl i feddwl "well i ni barcio rwla arall".

"Does na'm rheswm i barcio ar ymyl Yr Wyddfa lle fedri di'm ca'l ambiwlans neu injan dân os 'ma' 'na rwbath yn digwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r anturiaethwr a chyflwynydd teledu, Dilwyn Sanderson-Jones, yn galw am roi dirwy o £1,000 i bobl sy'n parcio'n anghyfreithlon yn Eryri

Ychwanegodd: "Dwi'n gwrthod mynd ar Yr Wyddfa ŵan, hyd yn oed os dwi'n ca'l grŵp sy' isio ca'l mynd."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn "annog pobl i gynllunio eu hymweliad a'u gweithgareddau ymlaen llaw" wrth ymweld â mannau poblogaidd yn y sir.

Ei gyngor i ymwelwyr o ardaloedd cymharol lleol fel Lerpwl a Manceinion os mae'n anodd cael lle parcio yw "ty'd yn ôl wsos nesa'" gan "fydd y mynyddoedd yna am flynyddoedd, canrifoedd".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

'Syrcas' yw'r prysurdeb ar gopa'r Wyddfa, medd Dilwyn Sanderson-Jones, sy'n dweud bod yna ddigon o lefydd godidog eraill i'w hymweld yn yr ardal

Mae'n awgrymu ymweld â bryniau eraill yr ardal, fel y Moelwynion ger Blaenau Ffestiniog.

"Weli di neb drw'r dydd a ma' 'na harddwch yn fan'na gei di'm gweld ar Yr Wyddfa... ma'r golygfeydd just yn anhygoel," dywedodd.

"Ma' gen ti afonydd hefyd, gen ti lynnoedd, gen ti dracs beicio - ma' 'na lot o betha' fedri di 'neud yn lle trio mynd i lawr i un milltir sgwâr a trio ca'l miloedd o bobol yn hwnnw."

Awgrym un perchennog busnes yn Llanberis yw dilyn esiampl y caer Inca ym Mheriw, Machu Picchu, lle mae nifer y bobl sy'n cael mynd yno bob diwrnod yn cael ei gyfyngu er mwyn gwarchod y llwybr i'r brig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer y bobl sy'n cael mynd i frig Machu Picchu ym Mheriw bob dydd yn cael ei gyfyngu

"Dwi'n dallt bod yna betha' efo'r parcia' cenedlaethol bo' chi ddim yn ca'l rheoli pobol a 'dach chi ddim yn cal charjo ar bobol," meddai Elin Aaron, sy'n cadw bwyty a gwesty Gallt-y-Glyn, "ond dwi'n siŵr bod 'na ryw fodd o 'neud rwbath."

Mae hi hefyd yn galw am ddefnyddio safle hen chwarel Glyn Rhonwy drwy'r flwyddyn fel maes parcio, a ddim yn ystod rhai digwyddiadau yn unig.

Byddai hynny, meddai, "yn tynnu ceir o'r pentre" ac yn gorfodi ymwelwyr i gerdded heibio'r holl siopau, gan weld beth sydd ar gynnig a gwario mwy i hybu'r economi leol.

'Hawl' i fwynhau'r awyr agored

Mae'n "anodd" rheoli niferoedd y bobl sy'n mynd i fyny'r Wyddfa "drwy'r dydd, drwy'r nos" ym misoedd prysur gwyliau'r haf, medd Tim Jones, is-Gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, sydd hefyd yn arwain teithiau o gwmpas Eryri.

"Mae'n rhan o'r hawl sydd gan bobl" i fwynhau'r awyr agored a chefn gwlad, meddai, ers sefydlu'r parciau cenedlaethol ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.

"Fysa'n ddipyn o gam i ddeud 'na, 'dan ni ddim isio mwy', hyd yn oed os ydi'r niferoedd yn mynd yn afresymol bob hyn a hyn," dywedodd.

Disgrifiad o’r llun,

Waeth faint o sylw sy'n cael eu rhoi i atyniadau eraill Eryri, Yr Wyddfa yw'r atyniad pennaf i'r mwyafrif

Mae yna ymdrechion, meddai, i dynnu sylw at fannau eraill sy'n werth eu gweld ond gan mai'r Wyddfa yw ail gopa uchaf y DU "mae pobol isio ticio fo ffwrdd" o'u rhestr o lefydd maen nhw'n dymuno ymweld ag ef.

"Yn anffodus, mae'r rhan fwyaf yn mynd i fyny'r un llwybr, sef llwybr Llanberis, sy'n golygu mae 'na llawer iawn o bobol sy'n dod i fyny o Lanberis."

Dywedodd ei fod yntau, wrth dywys cerddwyr, "yn trio osgoi'r Wyddfa, os dwi'n gallu, ond ma' pobol dal isio 'neud o".

Serch camau rheoli parcio, gan gynnwys safleoedd parcio a theithio a gwasanaeth bysys Sherpa'r Wyddfa, mae rhai'n gyndyn o hyd i'w defnyddio, ond mae'r sefyllfa'n gwella, meddai.

Mae cyrraedd godre'r Wyddfa ar fws, ychwanegodd, yn caniatáu ymwelwyr i fynd i fyny un llwybr a dod i lawr ar un arall, sy'n rhoi "gwell profiad" iddyn nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith wedi cael ei gynnal eleni i wella maes parcio'r Glyn yn Llanberis

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn "annog pobl i gynllunio eu hymweliad a'u gweithgareddau ymlaen llaw" wrth ymweld â mannau poblogaidd yn y sir.

"Gofynnwn i fodurwyr barchu'r cyfyngiadau parcio a chadw'r ffyrdd yn glir ac yn ddiogel, ac mae ein swyddogion gorfodaeth parcio yn patrolio cymunedau ar draws y sir ac yn gorfodi'r cyfyngiadau parcio sydd mewn lle.

"O ran safle Glyn Rhonwy yn ardal Llanberis, mae'r Cyngor yn cydweithio gyda threfnwyr digwyddiadau ac mae llain yng Nglyn Rhonwy yn cael ei defnyddio fel maes parcio dros dro drwy drefniant.

"Mae'r Cyngor hefyd wedi gwneud gwelliannau sylweddol ym maes parcio Y Glyn dros y misoedd diweddar, ac wedi cyflwyno gorchymyn parcio yno er mwyn rheoli'r safle.

"Yn ogystal, fel rhan o'r ymdrechion i sicrhau gwell rheolaeth o gartrefi modur a cherbydau gwersylla, mae'r Cyngor yn datblygu safleoedd 'Arosfan' a fydd yn cynnig lleoliad dros nos i gartrefi modur a cherbydau gwersylla tebyg i 'aires'. Bydd un o rhain wedi'i leoli yn Y Glyn."