'Paratowch yn iawn er mwyn osgoi galwadau achub di-angen'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Elfyn Jones o Dîm Achub Mynydd Llanberis: "'Dan ni 'di cael 160 o alwadau eleni'n barod"

Mae tîm achub mynydd prysuraf Cymru yn gobeithio bydd ymgyrch sydd wedi ei anelu at dwristiaid yn arwain at lai o alwadau "y fyddai wedi gallu eu hosgoi".

Mae Croeso Cymru wedi ymuno gyda Mentro'n Gall Cymru ar yr ymgyrch 'Addo', sy'n ddangos i bobl sut i fwynhau'r awyr agored mewn modd diogel.

Daw hynny yn sgil pryderon fod gwirfoddolwyr achub mynydd yn gorfod ymateb i alwadau a fyddai wedi gallu eu hosgoi drwy well paratoi o flaen llaw.

Mae yna amcangyfrif bod twristiaeth werth £3bn i economi Cymru, ond bwriad yr ymgyrch 'Addo' yw gofyn i ymwelwyr gynllunio yn well cyn mentro i gefn gwlad Cymru.

Gyda'r ymgyrch yn cael ei hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol, radio digidol a Spotify dros fisoedd yr haf, y tri cwestiwn sy'n cael eu hannog yw:

  • A oes gennyf yr wybodaeth a'r sgiliau ar gyfer y diwrnod?

  • Ydw i'n gwybod sut bydd y tywydd?

  • A oes gennyf y dillad a'r offer cywir ar gyfer y gweithgareddau a'r amodau?

Ffynhonnell y llun, Croeso Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Croeso Cymru wedi ymuno gyda Mentro'n Gall Cymru ar yr ymgyrch 'Addo', sy'n ddangos i bobl sut i fwynhau'r awyr agored mewn modd diogel.

Mae hefyd yn gofyn i bobl roi sylw i arwyddion a chyngor diogelwch lleol, fel dewis i nofio ar draethau ag achubwr bywydau a nofio rhwng y baneri coch a melyn.

'Dim rheswm galw am wasanaeth brys'

Dywedodd Elfyn Jones o Dîm Achub Mynydd Llanberis fod yr ymgyrch Mentro'n Gall wedi'i lansio i gael "gwybodaeth syml allan i bobl sy'n defnyddio cefn gwlad Cymru".

Fe gafodd y tîm o wirfoddolwyr 237 o alwadau yn ystod 2021, y nifer fwyaf maen nhw wedi'i dderbyn erioed, a'r uchaf o unrhyw dîm achub mynydd drwy Brydain.

Ond maen nhw'n parhau i fod yn brysur, ac eisoes wedi ymateb i 160 o alwadau er nad ydi'r tymor twristiaeth wedi cyrraedd ei hanfod eto.

"Mae tîm achub Llanberis yn hynod brysur eleni," meddai.

Ffynhonnell y llun, Tim Achub Mynydd Llanberis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tîm Achub Mynydd Llanberis eisoes wedi ymateb i 160 o alwadau eleni

"'Dan ni wedi delio hefo rhyw 160 o ddigwyddiadau y flwyddyn yma'n barod a 'dan ni ddim mewn i fis Awst eto.

"Mae nifer o'r rheiny... mae'n bosib osgoi y digwyddiadau hynna os fysa pobl wedi paratoi cyn mynd i fyny.

"Does 'na ddim rheswm i rai pobl alw am wasanaeth brys pan mae hi wedi mynd yn dywyll, neu pan maen nhw wedi mynd yn wlyb neu wedi mynd ar goll.

"Drwy gynllunio o flaen llaw mae'n bosib osgoi hynny, ac os ydyn nhw'n paratoi o flaen llaw maen nhw am gael diwrnod llawer gwell ac maen nhw'n mynd i fwynhau eu hunain llawer mwy drwy wneud hynny hefyd."

Fe ychwanegodd: "Gall damwain ddigwydd i rhywun, dyna pam 'dan ni'n dweud wrth pobl i baratoi a chynllunio o flaen llaw.

"Does neb yn mentro allan er mwyn cael damwain neu digwyddiad, ac mae miloedd o bobl yn cael diwrnod bendigedig ar y mynydd am bob un person sy'n cael anaf.

"Ond ydi be' mae'n nhw'n ei wneud o fewn eu gallu, ydi'r offer iawn ganddyn nhw a ydyn nhw'n gwybod be mae'r tywydd am fod y diwrnod hwnnw?

"Mae'r mynydd am fod yno o hyd, does dim drwg o gwbl os ydi pobl yn pryderu i droi rownd a mynd 'nôl i lawr."

Disgrifiad o’r llun,

Emma Edwards-Jones: "Gallwch helpu ein gwasanaethau achub i fwynhau eu haf nhw hefyd!"

Ychwanegodd Emma Edwards-Jones, Cydarweinydd ymgyrch Mentro'n Gall: "Gyda'i chyfuniad hyfryd o fryniau, mynyddoedd, llynnoedd ar arfordiroedd, Cymru yw'r lleoliad perffaith ar gyfer mwynhau antur yn yr awyr agored.

"Bydd mentro'n gall a rhoi amser i gynllunio eich diwrnod yn sicrhau eich bod yn mwynhau eich amser yn fwy o lawer, a byddwch yn cyrraedd gartref yn ddiogel.

"Drwy asesu eich gallu a'ch sgiliau, gwybod sut bydd y tywydd a gwneud yn siŵr bod gennych y dillad a'r offer cywir, gallwch helpu ein gwasanaethau achub i fwynhau eu haf nhw hefyd!"