'Pwysig' arddangos cynnyrch Cymreig ar Celebrity MasterChef

  • Cyhoeddwyd
Wynne Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Wynne yn adnabyddus fel canwr opera a chyflwynydd BBC Radio Wales

Mae'r cyflwynydd a'r canwr opera Wynne Evans wedi cael "cyfle gwych" i ymddangos yn y gyfres ddiweddaraf o Celebrity MasterChef.

Dywedodd ei fod mor falch o allu defnyddio ac arddangos cynnyrch Cymreig a rhoi llwyfan i gwmnïau bach o Gymru.

Mewn sgwrs ar raglen Bore Sul BBC Radio Cymru, dywedodd fod y profiad yn un "nerfus" ac "anodd" ar adegau.

Bydd Wynne yn ymddangos yn rownd gyn-derfynol y gystadleuaeth cyn bo hir.

Mae Wynne wedi bod yn defnyddio cynhwysion o Gymru yn ystod y gyfres a gafodd ei ffilmio ddechrau'r flwyddyn ond sy'n cael ei darlledu ar hyn o bryd.

Dywedodd Wynne: "Mae'n bwysig i wneud pethau Cymreig. Yn y dechrau dwi'n defnyddio salt marsh lamb, Penclawdd cockles, whisgi Penderyn, Felinfoel.

"Dwi eisiau cefnogi'r cwmnïau bach yng Nghymru sy'n gwneud pethau hyfryd i fwyta. Mae'n bwysig i fi eu defnyddio yn y rhaglen," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Wynne Evans (ail o'r chwith) ei fod yn falch o'r cyfle i ymddangos ar y rhaglen

"Mae'n gyfle gwych ond i ddweud y gwir, dwi'n nerfus, dwi'n nerfus iawn.

"Pan 'dych chi'n mynd am y gegin am y tro cyntaf - o, just overwhelmed!

"Mae'n anodd just i wneud y popty, y peiriannau, mae'n anodd."

Dywedodd fod ganddo brofiad yn coginio pan yn iau ac fe gafodd wersi gyda 'Brenhines y Gegin' - Ena Thomas.

Ffynhonnell y llun, Tinopolis
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ena yn adnabyddus fel 'Brenhines y Gegin' a bu ar raglen Heno yn coginio am flynyddoedd

Dywedodd Wynne mai ei fam wnaeth drefnu iddo gael y gwersi coginio.

"Dwi'n mwynhau achos pan o'n i'n blentyn roedd fy mam yn poeni... felly mae'n anfon fi i wersi coginio gyda Ena Thomas.

"Felly o'n i'n mynd i wersi yn y ganolfan ieuenctid yng Nghaerfyrddin - gwersi coginio gydag Ena - am dair blynedd pan o'n i'n blentyn.

"Dwi'n dwlu yn y gegin felly pan ddaeth y cyfle i fynd ar MasterChef o'n i, ie, dyma oedd Ena eisiau."

Yr her anoddaf?

"Y sialens yw coginio yn y gegin, mae'r amser yn mynd yn glou," dywedodd, "ti ddim yn cael watch na ffôn symudol felly ti ddim yn gw'bod yr amser.

"Pan ddywedodd Greg [Wallace, y cyflwynydd] 'pum munud', you just panic!"

Chwerthin oedd ymateb cyntaf Wynne Evans pan ofynnwyd iddo a fydd yn cyhoeddi llyfr neu raglen radio coginio - ond gan ychwanegu "pam lai!".

Pynciau cysylltiedig