Concrit RAAC: Arolwg ysgolion wedi ofn cwymp 'catastroffig'

  • Cyhoeddwyd
Prop yn dal to
Disgrifiad o’r llun,

Yn Lloegr bydd dros 100 o ysgolion yn cau ar unwaith oherwydd pryderon am RAAC

Bydd arolwg ymhlith ysgolion a cholegau Cymru i weld a oes unrhyw adeiladau sydd wedi eu gwneud gyda math o goncrit sy'n gallu dymchwel, meddai Llywodraeth Cymru.

Daw wrth i Lywodraeth y DU gau 100 o ysgolion, colegau a meithrinfeydd yn Lloegr ar unwaith oherwydd pryder am yr adeiladau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi comisiynu arolwg o gyflwr ysgolion a cholegau fis Mai eleni, ac nad oes cofnod hyd yma bod y math penodol o goncrit sydd dan sylw yn Lloegr wedi ei ddefnyddio yng Nghymru.

Ond mae'r deunydd wedi ei ganfod mewn ysbytai yng Nghymru yn ddiweddar.

Rhaid "gweithredu'n gyflym" ar y mater, meddai'r Ceidwadwyr Cymreig.

Beth yw'r concrit?

Cafodd y concrit ysgafn - reinforced autoclaved aerated concrete (RAAC) - ei ddefnyddio'n aml rhwng y 1960au a'r 1990au.

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi dweud bod RAAC bellach wedi pasio ei gyfnod diogel, ac yn "dueddol i ddymchwel heb rybudd".

Ffynhonnell y llun, Creative Commons Licence

Yn ddiweddar, cafodd cleifion eu symud o Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, Sir Benfro, ar ôl i'r deunydd gael ei ganfod yna.

Yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod RAAC "ond yn bresennol mewn nifer fechan o safleoedd", yn cynnwys Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni.

Cafodd ei ganfod mewn rhan o Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth hefyd.

'Gallu methu yn gatastroffig'

Yn siarad ar Dros Frecwast, dywedodd y pensaer Alan Davies bod y concrit wedi bod yn boblogaidd am ei fod yn ddeunydd "cyfleus iawn".

"Roedd yn gallu cael ei drosglwyddo ar gefn lori ac roedd posib adeiladu yn gyflym hefo fo ac yn arbennig felly ar gyfer adeiladau cyhoeddus fel ysgolion ac ysbytai lle roedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer toeau gwastad, toeau fflat ysgafn."

Ond dros y blynyddoedd daeth i'r amlwg "bod ganddo fywyd byr fel defnydd," meddai.

"Yr hyn oedd wedi ei ddarganfod oedd oherwydd bod y concrit yma yn ysgafn gyda lot o aer roedd effaith lleithder neu ddŵr yn fwy serious ar goncrit fel hyn.

"Roedd lleithder yn mynd i mewn ac roedd y concrit yn mynd yn frau dros gyfnod a hefyd roedd y lleithder yn medru cyrraedd y bariau cryfhau 'ma o ddur ac yn eu rhydu nhw...

"Ac yn hytrach na dirywio ychydig neu dros amser ac efallai yn sigo ychydig, y gofid erbyn hyn yw eu bod nhw yn gallu methu yn gatastroffig ac felly torri yn hytrach na dim ond sigo ychydig."

Ffynhonnell y llun, Ben Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oes cofnod o'r concrit mewn ysgolion neu golegau, ond y bydd arolwg

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dydy awdurdodau lleol ddim wedi adrodd achosion o ddefnydd RAAC mewn ysgolion neu golegau.

"Rydym wedi comisiynu arolwg o holl ysgolion a cholegau gwladol fydd yn canfod unrhyw adeiladau sy'n cael eu hamau o gynnwys RAAC."

Ychwanegodd mewn datganiad pellach amser cinio ddydd Gwener eu bod wedi comisiynu arolwg o gyflwr ysgolion a cholegau Cymru fis Mai eleni, ac y bydd hynny'n "adnabod unrhyw strwythurau sy'n cael eu hamau o gynnwys RAAC".

Dywedodd nad oes yr un awdurdod lleol na sefydliad addysg bellach wedi nodi'r defnydd o RAAC yn eu hadeiladau hyd yma.

'Perygl anaf yn gwbl annerbyniol'

Mae'n "glir bod pryder diogelwch amlwg ynghylch RAAC" meddai llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Laura Anne Jones.

Ychwanegodd bod "perygl unrhyw anaf i blant yng Nghymru yn gwbl annerbyniol".

"Rhaid i'r gweinidog addysg Llafur adolygu'r sefyllfa yng Nghymru ar frys, a dilyn llwybr llywodraeth Geidwadol y DU wrth adnabod ysgolion sydd mewn perygl."

Disgrifiad o’r llun,

Nid dim ond ysgolion all fod yn cynnwys RAAC mewn adeiladau, meddai Owain Llywelyn

Hefyd yn siarad ar Dros Frecwast dywedodd Owain Llywelyn, sy'n syrfëwr siartredig, bod "pobl yn y proffesiwn wedi bod yn ymwybodol o'r broblem ers 1992".

"Y ffaith amdani yw bod y gair concrit yn gamarweiniol... ma' 70% o RAAC yn aer.

"Mi yrrwyd allan nifer o holiaduron gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i awdurdodau addysg yn Lloegr, tua rhyw dair, pedair blynedd yn ôl, ond ffordd rad oedd hynna o drio darganfod natur y broblem yn gyffredinol.

"Dylid fod wedi cael archwiliad manwl o'r holl ystâd pryd hynny, fel mae Llywodraeth Cymru wedi datgan eu bod nhw'n mynd i wneud."

Ychwanegodd: "Yr hyn 'da ni'n deall yw bod llai o'r defnydd yma wedi bod yng Nghymru, ac wrth gwrs mae'n rhaid cofio mai nid dim ond ysgolion 'da ni'n sôn amdano fan hyn.

"'Da ni hefyd yn ymwybodol ma' 'na enghreifftiau o nifer o adeiladau sector gyhoeddus - colegau, swyddfeydd heddlu, llysoedd, carchardai ac ati.

"Dwi'm yn meddwl fod o'n ddigonol i ganolbwyntio'n unig ar ysgolion," meddai ond rhybuddiodd bod y "gost o gomisiynu archwiliad manwl o'r ystâd yn mynd i fod yn sylweddol".

Disgrifiad o’r llun,

Dydy contractwyr ddim o reidrwydd yn sylweddoli bod pwerau adeiladu wedi eu datganoli yng Nghymru, medd Keith Jones o Sefydliad Peirianwyr Sifil Cymru

Mae pwerau'n ymwneud â seilwaith wedi eu datganoli yng Nghymru ond yn ôl un arbenigwr adeiladu mae'n bosib bod contractwyr heb sylweddoli hynny.

Dywedodd Keith Jones - cyfarwyddwr Sefydliad Peirianwyr Sifil Cymru - wrth raglen BBC Radio Wales Breakfast ei fod "yn amau" o'r herwydd bod concrit RAAC wedi cael ei ddefnyddio yng Nghymru.

"Pan ry'ch chi'n ddylunydd neu'n gontractwr, dydych chi ddim yn cydnabod 'mae hwn yn Lloegr, mae hwn yng Nghymru'," meddai.

"Felly mae'n debygol bod [RAAC] nid dim ond mewn ysgolion, fe allai fod mewn unrhyw adeilad cyhoeddus."

Ychwanegodd bod y Sefydliad yn croesawu adolygiad Llywodraeth Cymru oherwydd y posibilrwydd y gallai adeiladau gwympo.

Pynciau cysylltiedig