Heddwas yn cyfaddef 160 o droseddau rhyw yn erbyn plant

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd yr achos ei gynnal yn Llys y Goron Caerdydd

Mae cyn-swyddog gyda Heddlu De Cymru wedi pledio'n euog i 160 o gyhuddiadau o droseddau rhyw yn erbyn plant, ac o flacmel mewn achos ble roedd y plentyn ieuangaf ond yn 10 oed.

Fe gyflawnodd Lewis Edwards - sy'n 23 oed ac o Ben-y-bont ar Ogwr - y troseddau dros gyfnod o dair blynedd, rhwng 2020 a 2023.

Roedd wedi pledio'n euog i 106 o gyhuddiadau mewn gwrandawiad ym mis Mai.

Ddydd Gwener, fe blediodd yn euog yn Llys y Goron Caerdydd i 54 cyhuddiad yn cynnwys annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithred rywiol, annog plentyn i wylio gweithred rywiol, blacmel a chreu dros 4,500 o luniau anweddus o blant.

Roedd dros 700 o'r lluniau yn y categori mwyaf difrifol.

Ymchwiliad ar-lein

Yn dilyn y gwrandawiad hwnnw, datgelodd Heddlu'r De bod Edwards wedi'i ddal yn dilyn ymchwiliad gan eu Tîm Ymchwiliadau Ar-lein.

Dechreuodd yr ymchwiliad hwnnw ar ôl i'r heddlu dderbyn gwybodaeth am weithredoedd amheus ar y we, oedd yn cynnwys lawrlwytho lluniau anweddus o blant ar y we dywyll.

Pan ddaeth i'r amlwg mai Edwards oedd y troseddwr, daeth yn glir hefyd ei fod yn swyddog gyda Heddlu'r De.

Gorchmynnodd Cofnodydd Caerdydd, Tracey Lloyd-Clarke bod Lewis Edwards yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu ar 23 Hydref.