Streic ar ben wrth i nyrsys dderbyn cynnig newydd

  • Cyhoeddwyd
Nyrs mewn llinell biced yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae nyrsys yng Nghymru wedi pleidleisio i dderbyn cynnig gan Lywodraeth Cymru'n ymwneud â'u tâl ac amodau, gan ddod â gweithredu diwydiannol i ben.

Fe wrthododd aelodau Coleg Brenhinol Nyrsio Cymru (RCN) gynnig gan y llywodraeth ym mis Mai er i fwyafrif undebau iechyd Cymru ei dderbyn.

Mae'r cynnig yn cynnwys 5% o gynnydd mewn cyflogau a thaliad untro ar gyfer 2022-23 sy'n werth rhwng £900 a £1,190.

Ond yn ôl yr RCN fe fydd gwelliannau o ran elfennau eraill o'r cynnig yn gwella amodau gweithio a safonau gofal.

Mae hynny'n cynnwys addewidion gan weinidogion mewn cysylltiad ag oriau gwaith hyblyg, rota staffio ac edrych i'r posibilrwydd o wythnos waith 36 awr heb leihau tâl.

Cafodd y cynnig ei dderbyn gan tua 52% o'r aelodau a gymrodd rhan yn y bleidlais.

Dywed yr undeb y bydd nawr yn canolbwyntio ar gyflogau 2024-25 mewn trafodaethau ac ar sicrhau bod elfennau amodau gwaith y cynnig yn cael eu gweithredu cyn gynted â phosib.

'Dyfalbarhad wedi talu'

Mae "penderfynoldeb a dewrder [aelodau] i sefyll dros eu cleifion a dyfodol y GIG wedi arwain at gynigion gwell niferus gan Lywodraeth Cymru," yn ôl cyfarwyddwr yr RCN yng Nghymru, Helen Whyley.

"O ganlyniad i'r gwelliannau yma, mae canlyniad y bleidlais yn dangos bod dyfalbarhad ein haelodau wedi talu ac maen nhw'n teimlo bod y cynnig yma'n mynd peth ffordd at wella amodau gwaith a diogelwch cleifion.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd cyfarwyddwr RCN Cymru, Helen Whyley, ei bod yn obeithiol y bydd trafodaethau'n arwain at "ganlyniadau cadarnhaol sylweddol"

"Mae nyrsys yn dweud wrtha' i'n glir iawn mai un cam bach i'r cyfeiriad cywir yw'r canlyniad yma, ac mae'n rhaid adeiladu arno yn y dyfarniadau tâl sydd i ddod.

"Bydd RCN Cymru yn dal Llywodraeth Cymru'n gyfrifol am wireddu eu hymroddiad i adfer tâl er mwyn gwneud yn iawn am flynyddoedd o rewi cyflogau ac i weithredu'r gwelliannau yn y cytundeb yma i amodau gwaith nyrsys."

Daw diwedd anghydfod y nyrsys wrth i feddygon rybuddio Llywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer gweithredu diwydiannol.

Mae'r corff sy'n cynrychioli meddygon, BMA Cymru, wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn dweud eu bod yn siomedig gyda'r trafodaethau gyda'r llywodraeth a'u bod yn bwriadu cynnal pleidlais dros streicio.