Cyfergyd posib i Popham yn nhreiathlon Ironman Cymru

  • Cyhoeddwyd
Alix PophamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Alix Popham yn cymryd rhan yn y treithlon i godi arian dros ei elusen Head for Change

Mae'r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Alix Popham wedi cael ei gludo i'r ysbyty yn sgil amheuaeth ei fod wedi cael cyfergyd wrth gymryd rhan yn nhreiathlon Ironman Cymru.

Roedd y cyn-flaenasgellwr 48 oed yn cymryd rhan yn y digwyddiad yn Ninbych-y-Pysgod, Sir Benfro er mwyn codi arian dros ei elusen anaf ymenyddol, Head for Change.

Yn ôl yr elusen Progressive Rugby, sy'n lobïo i wella lles chwaraewyr y gamp, fe gafodd gic i'w ben yng nghymal nofio'r ras, a bod ei gyflwr wedi dirywio mewn anffawd "greulon ac eironig".

Fe gafodd Popham ddiagnosis o ddementia cynnar yn 40 oed, ac mae ymhlith 300 o chwaraewyr rygbi sy'n cymryd camau cyfreithiol yn erbyn cyrff llywodraethu'r gamp yn sgil anafiadau pen y maen nhw wedi eu derbyn wrth chwarae'r gêm.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Alix Popham (yn y canol), gyda chyd-aelodau tîm, gan gynnwys Shane Williams, cyn cystadlu yn Ironman Cymru ddydd Sul

Dywedodd trefnydd y treiathlon, Adam Rice, ei fod ar ddeall fod Mr Popham wedi cael ei archwilio rhag ofn yn dilyn yr anaf yn ystod y digwyddiad ddydd Sul.

Mewn neges ar wefan X, Twitter gynt, fe ddywedodd Progressive Rugby: "Wedi misoedd o hyfforddi dwys i godi arian ar gyfer addysg a chefnogaeth yn ymwneud â chyfergyd, mae Alix wedi gorfod tynnu'n ôl ar ôl dioddef cyfergyd posib oherwydd cic i'w ben wrth nofio."

Mewn neges ddilynol - a gafodd ei rhannu "gyda chaniatâd" - dywedodd Progressive Rugby fod Mr Popham "ddim yn gallu adnabod ei wraig Mel wrth iddo ddod allan o'r dŵr".

Ychwanegodd: "Er yn benysgafn ac yn dioddef cur pen, roedd yn ymddangos yn iawn ond mae ei gyflwr wedi dirywio ac mae ar hyn o bryd yn cael ei gludo mewn ambiwlans i'r ysbyty."

Ffynhonnell y llun, Ironman Cymru 2023
Disgrifiad o’r llun,

Ras 2.4 milltir yw cymal cyntaf y treiathlon, sy'n dechrau o draeth Dinbych-y-Pysgod

Mae elusen Head for Change yn hybu iechyd yr ymennydd o fewn y byd chwaraeon ac yn cefnogi cyn-chwaraewyr sy'n cael eu heffeithio gan gyflyrau fel dementia.

Mae Popham wedi dweud wrth y BBC yn y gorffennol bod meddygon yn awgrymu ei fod wedi cael dros 100,000 o is-gyfergydion yn ystod ei yrfa.

Dywedodd y cyn-chwaraewr bryd hynny fod ganddo "dim atgofion o rhannau helaeth o fy ngyrfa".

'Edrych ymlaen' cyn y ras

Wrth edrych ymlaen at yr her fe ddywedodd Popham bod hyfforddi ar gyfer y ras wedi helpu ei iechyd meddwl wrth brosesu ei ddiagnosis o arwyddion cynnar dementia.

"I fi, pan ges i fy niagnosis tair blynedd yn ôl, o'n i eisiau cael amcanion newydd," meddai.

"Dyw e ddim yn mynd i fod yn gyflym. Dyw e ddim yn mynd i fod yn bert. Ond fydda i'n gwneud y ras a sicrhau bod y fedel yna rownd fy ngwddf."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alix Popham cyn y ras bod hyfforddi wedi helpu ei iechyd meddwl wrth brosesu ei ddiagnosis o arwyddion cynnar dementia

Er ei brofiad o hyfforddi'n gyson fel chwaraewr rygbi proffesiynol, roedd yn dweud bod paratoi ar gyfer Ironman Cymu'n wahanol iawn.

"Rwyt ti ond yn gorfod goroesi am 80 munud ar y cae rygbi. Mae gen i 17 awr i wneud hwn..."

Er ei nerfusrwydd am y nofio, mae'n "edrych ymlaen" at y sialens.

"Yr awyrgylch ar wyneb clogwyn Dinbych-y-pysgod am 06:30 yn y bore, wrth i'r haul godi a'r dorf yn canu anthem genedlaethol Cymru, y gefnogaeth o gwmpas y dref - dwi'n cael goosebumps yn siarad am y peth."