Yr actores Rakie Ayola yn derbyn Tlws Siân Phillips
- Cyhoeddwyd

Yn wreiddiol o Drelái, Caerdydd, mae Rakie Ayola wedi ymddangos mewn rhaglenni fel The Pact ar BBC One
Yr actores Rakie Ayola o Gaerdydd sy'n derbyn Tlws Siân Phillips BAFTA Cymru eleni.
Mae'r wobr yn cael ei rhoi i Gymro neu Gymraes sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol mewn ffilm neu raglen deledu.
Mae Ms Ayola wedi actio ym myd ffilm, theatr a theledu am dros 30 mlynedd, ac mae hefyd yn ymgyrchydd brwd dros ehangu cynrychiolaeth ym myd perfformio.
Yn wreiddiol o Drelái, bu'n rhan o Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru pan yn iau, cyn mynd i astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Yn ddiweddar mae wedi chwarae cymeriadau yn The Pact ar BBC One - lle bu hefyd yn uwch-gynhyrchydd - a'r ffilm Anthony, lle portreadodd Gee Walker gan dderbyn gwobr yr Actores Gefnogol Orau yng Ngwobrau Teledu BAFTA 2021 am ei pherfformiad.
Ymhlith enillwyr blaenorol y wobr mae'r actorion Rhys Ifans, Matthew Rhys, Michael Sheen, Ioan Gruffudd a Ruth Jones, y cynhyrchydd teledu Bethan Jones, y sgriptiwr teledu Russell T Davies a'r artist colur Siân Grigg.
'Talent anhygoel sy'n ysbrydoli'
Dywedodd Ms Ayola: "Mae wedi cymryd amser hir i mi brosesu'r newyddion yma. A dweud y gwir, dyw e dal ddim yn teimlo'n real.
"Diolch yn fawr iawn BAFTA Cymru am fy newis fel enillydd Gwobr Siân Phillips eleni.

Enillodd Rakie Ayola wobr yr Actores Gefnogol Orau yng Ngwobrau Teledu BAFTA 2021
"Mae gwaddol yn rhywbeth hanfodol bwysig i mi, felly mae'n anrhydedd enfawr i mi ymuno â'r rhestr o'r rhai sydd wedi cael eu cydnabod yn y gorffennol, gyda'r gobaith y gallaf ddefnyddio'r platfform anhygoel hwn i annog a gweithio gydag eraill fydd, gobeithio yn ymuno â ni ar y rhestr yn y dyfodol."
Dywedodd Rebecca Hardy, pennaeth dros dro BAFTA Cymru: "Mae Rakie yn dalent anhygoel sy'n ysbrydoli, gyrru a chyfoethogi'r diwydiant yma yng Nghymru a thu hwnt.
"Yn rym creadigol sydd a galw mawr amdani, mae hi hefyd mor falch o'i gwlad, ac yn chwifio baner Cymru ar bob cyfle."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai 2023
- Cyhoeddwyd27 Awst 2023