Person wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Pont Cleddau
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod un person wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Pont Cleddau yn Sir Benfro.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal y bont yn Noc Penfro am 14:19 ddydd Mawrth yn dilyn gwrthdrawiad rhwng bws 52 sedd a char.
Bu'n rhaid cludo un o'r gyrwyr i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr, ac roedd naw o deithwyr eraill hefyd angen triniaeth ysbyty.
Dyw'r heddlu heb gadarnhau ym mha gerbyd oedd y person sydd wedi marw, ond maen nhw'n rhoi cymorth i'r teulu.
Ychwanegodd y llu fod un o'r rheiny a gafodd eu cludo i'r ysbyty mewn "cyflwr difrifol".
Y cwmni bws a oedd yn rhan o'r digwyddiad ydy Titterington Holidays o ogledd Lloegr, a ddywedodd fod tua 35 o bobl ar y bws ar y pryd.
Yn gynharach fe ddywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin bod gyrrwr "yn ddifrifol sownd" mewn cerbyd am gyfnod, cyn i griwiau ei ryddhau.
"Fe wnaeth nifer o deithwyr y bws ddioddef anafiadau amrywiol ac fe gafodd llawer ohonyn eu cludo i'r ysbyty mewn ambiwlansys ffordd a cherbydau heddlu," dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân.
Cafodd ambiwlans awyr, pum ambiwlans ffordd a chriwiau ymateb brys eu hanfon i'r digwyddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod "wedi trosglwyddo un claf i Ysbyty Athrofaol Cymru [yng Nghaerdydd], a naw claf yn rhagor i Ysbyty Llwynhelyg am ragor o driniaeth".
Roedd y gwasanaeth tân wedi trin yr achos fel "digwyddiad mawr" yn y lle cyntaf, ond mae'r sefyllfa bellach wedi sefydlogi.
Cafodd pump o griwiau tân ac achub eu hanfon i'r digwyddiad. Dywedodd y gwasanaeth bod rhai o'r criwiau wedi gadael y safle am 16:16, tra bo'r gweddill wedi aros yno i gynorthwyo'r heddlu.
Dywedodd yr heddlu yn gynnar nos Fawrth bod yr A477 yn dal ynghau rhwng cylchfan Honeyborough a chylchfan Penfro.
Dywed Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod yn cefnogi'r ymateb brys i'r digwyddiad, gan apelio ar bobl ond i fynd i adran damweiniau a brys Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd os oes ganddyn nhw "salwch sy'n peryglu bywyd neu anaf difrifol".
Heddlu'n 'gwibio heibio'
Roedd Lauren Joseph, sy'n byw yn Aberdaugleddau, yn ceisio croesi'r bont ar ei ffordd adref o'r gwaith pan ddywedodd swyddog cyngor wrthi bod yn rhaid "mynd y ffordd hir rownd ar Bont Caeriw oherwydd digwyddiad".
Dywedodd ei bod wedi gweld dau gerbyd heddlu'n "gwibio heibio" ynghyd ag injan dân" a bod "dim sôn eto ynghylch ailagor y bont".
Ychwanegodd: "Rwy'n teithio ar gyflymder o 20mya mewn ardal 60mya ar hyn o bryd oherwydd y tagfeydd oherwydd y gwrthdrawiad."
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi dweud bod ei feddyliau "gyda phawb sydd wedi eu heffeithio" gan ddigwyddiad "pryderus", gan "ddiolch i'r gwasanaethau brys am eu gwaith caled".