Wafer Fab: 'Cyfyngiadau i gyfri am golli 100 o swyddi'

  • Cyhoeddwyd
Newport Wafer FabFfynhonnell y llun, Newport Wafer Fab
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y dyfodol y safle'n aneglur am rai misoedd, yn ôl rheolwyr Newport Wafer Fab

Mae'r 100 o ddiswyddiadau tebygol yn ffatri Newport Wafer Fab yn ganlyniad cyfyngiadau Llywodraeth y DU ar berchnogaeth y cwmni, medd rheolwyr.

Y llynedd fe gafodd y cwmni technoleg o'r Iseldiroedd, Nexperia orchymyn gan weinidogion i werthu 86% o'u siâr yn y ffatri yn ne Cymru oherwydd pryderon diogelwch gwladol.

Cwmni o China yw prif berchennog Nexperia, a gan mai Newport Wafer Fab yw cynhyrchydd microsglodion mwyaf y DU roedd yna ofnau y gallai'r dechnoleg fynd i ddwylo China.

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn cydnabod bod hi'n gyfnod o bryder ac ansicrwydd i weithwyr ac i'r ardal.

Mae Newport Wafer Fab, sy'n cynhyrchu lled-ddargludyddion (semiconductors), yn cyflogi 450 o bobl yn y ffatri yn ardal Dyffryn.

Roedd rheolwyr wedi rhybuddio y llynedd fod diswyddiadau'n "anochel" pe bai'r cwmni'n gorfod gwerthu 86% o'r busnes.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae lled-ddargludyddion yn caniatáu i drydan lifo trwy geir, offer cartref a dyfeisiadau fel ffonau clyfar

Wrth gyhoeddi ymgynghoriad ar dorri 100 o swyddi, dywedodd y cwmni mewn datganiad bod "hwn yn benderfyniad busnes na chafodd ei wneud ar chwarae bach ond yn un i warchod hyfywedd y safle yn y dyfodol".

Mae gorchymyn a chyfyngiadau Llywodraeth y DU, medd yn datganiad wedi gorfodi Nexperia "i ganslo'u cynlluniau buddsoddi" a chyflwyno technoleg a chynnyrch newydd yng Nghasnewydd.

Mae gwendid presennol y farchnad lled-ddargludyddion ar draws y byd hefyd yn ffactor. Mae'r cwmni'n dweud bod dyfodol y safle'n debygol o fod yn aneglur am "fisoedd lawer", yn rhannol am fod Adolygiad Barnwrol i'r mater "yn siomedig o araf".

Mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar weinidogion yn San Steffan i drin gwerthiant Newport Wafer Fab "fel blaenoriaeth hollbwysig" ac mae angen sicrhau bod unrhyw ddarpar berchennog "â'r arian a'r bwriad o fuddsoddi yn y safle gynted â phosib", medd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Dywedodd Llywodraeth y DU nad ydyn nhw'n gwneud sylw ar benderfyniadau diogelwch gwladol ond eu bod "yn cydnabod pwysigrwydd Nexperia Newport i'r economi leol a'r ansicrwydd i'w gweithwyr a theuluoedd".

Ychwanegodd mai gwerthiant "llwyddiannus" yw'r nod.