Bachgen 10 oed wedi marw ar ôl syrthio o siglen raff

  • Cyhoeddwyd
Sullivan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lewi Sullivan yn caru chwarae rygbi, ac yn aelod o Glwb Rygbi Beaufort

Mae tad wedi rhoi teyrnged i'w fab 10 oed, fu farw ar ôl syrthio o siglen raff.

Syrthiodd Lewi Sullivan o Rasa ger Glyn Ebwy tra'n chwarae gyda'i ffrindiau ddydd Gwener, 1 Medi.

Treuliodd aelod o'r cyhoedd 20 munud yn ceisio ei adfer cyn i barafeddygon gyrraedd.

Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Arch Noa yng Nghaerdydd ond bu farw dridiau'n ddiweddarach.

Mewn teyrnged, dywedodd ei dad Nigel Sullivan bod "Lewi yn fab ffantastig, gofalgar a thyner".

"Ro'n i'n browd iawn ohono, ac ro'n i'n gw'bod ei fod e'n browd ohona i - nid yn unig fel tad ond hefyd fel ffrind."

Disgrifiad o’r llun,

Lewi gyda'i dad Nigel Sullivan

Cafodd Lewi, a oedd yn byw gyda'i dad Nigel, ei lysfam Louise a'i ddau frawd, ei ddisgrifio fel "y plentyn gorau y gall tad ofyn amdano".

Mae ei rieni wedi diolch i'r rhai geisiodd helpu eu mab.

"Roedd yr ambiwlans awyr allan o'r byd hwn. Roedd y parafeddygon yn ffantastig a'r heddlu yn anhygoel," meddai Nigel Sullivan.

Dywedodd bod Lewi, fu farw ddydd Llun, yn "caru ei rygbi a beiciau modur ac roedd e wrth ei fodd bod mewn lorïau a pheiriannau gyda fi".

"Ro'dd e'n cael ei garu gan bawb ffordd hyn a bydde fe yn stopio i siarad 'da unrhyw un."

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhieni Lewi wedi diolch i'r rhai geisiodd helpu eu mab

"Fel clwb, ry'n ni wedi ein brawychu o golli un o'n chwaraewyr ifanc," meddai llefarydd o Glwb Rygbi Beaufort lle roedd Lewi yn aelod.

"Roeddet ti ymhlith y mwyaf doniol, ac yn fachgen llawn brwdfrydedd oedd yn caru chwarae rygbi i Beaufort. Fe fydd llawer yn gweld dy golli."

Mae tudalen godi arian wedi ei sefydlu i gasglu rhoddion i'r Ambiwlans Awyr ac uned blant gofal dwys Ysbyty Arch Noa yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.