Canolfan gelfyddydol CellB Blaenau yn dathlu 20 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
CellB
Disgrifiad o’r llun,

Mae CellB wedi'i lleoli mewn hen orsaf heddlu

Mae canolfan gelfyddydol ym Mlaenau Ffestiniog yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed.

Wedi ei leoli mewn hen orsaf heddlu yn y dref, mae cenedlaethau o bobl ifanc wedi cael cyfle i ddysgu am bob agwedd o'r byd cerddoriaeth a llawer mwy yno.

Mae CellB yn cael ei rhedeg gan Gwallgofiaid, menter gymdeithasol ddielw sydd wedi bod yn darparu hyfforddiant creadigol i bobl ifanc ardal Ffestiniog ers 2003.

I nodi'r achlysur, ymhlith y rhai sydd wedi talu gwrogaeth i'r fenter yw'r seren Hollywood Rhys Ifans.

Clybiau ieuenctid 'reit hen ffasiwn'

Dechreuodd y cyfan 20 mlynedd yn ôl diolch i freuddwyd un dyn, Rhys Roberts, a arferai fod yn y band Anweledig.

Aeth ati i sefydlu CellB drwy fenter gymunedol Gwallgofiaid.

Disgrifiad o’r llun,

Rhys Roberts, cyn-aelod o'r band Anweledig, a gafodd y syniad am CellB

Dywedodd Rhys: "O'n i'n gweithio i'r clybiau ieuenctid ac yn mynd o gwmpas gwahanol youth clubs ac o'n i'n sylwi bod rhywbeth reit hen ffasiwn amdano fo.

"Dal yn gwneud pethau fel chocolate log cakes a chwarae gemau efo'r ymbarels a ballu, ac o'n i'n teimlo 'sa'n reit dda dod a rhywfaint o be' ges i efo Anweledig a gwneud 'chydig bach o gerddoriaeth.

"Dos i fyny efo syniad Gwallgofiaid a mynd o amgylch yn gwneud gweithdai cerddoriaeth… dyna sut ddaru o gychwyn 20 mlynedd yn ôl."

'Cyfraniad gwych i'r dref'

Dros y blynyddoedd mae CellB wedi datblygu i gynnig pob math o adnoddau i'r gymuned.

Mae 'na ddwy sinema yno yn ogystal â hostel a bar, sydd wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd y fro yn ôl y cynghorydd Glyn Daniels, sy'n cynrychioli rhan o Flaenau Ffestiniog ar Gyngor Gwynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Daniels fodd CellB wedi bod yn wych i'r dref

"Mae cyfraniad CellB wedi bod yn wych i'r dref yma," meddai.

"Y cyfleon mae pobl ifanc wedi ei gael i ddysgu crefftau gwahanol fatha cerddoriaeth, DJio, mae o wedi bod yn wych.

"Mae 'na sinema, mae 'na dŷ bwyta newydd yn mynd i agor yma cyn bod hir… mae'r peth yn wych."

Mae criw o bobl ifanc sy'n aelodau o fand Yr Ogs yn gwerthfawrogi'n fawr y cyfleoedd maen nhw wedi'u cael yn CellB, gan dysgu pob math o agweddau fel recordio.

Disgrifiad o’r llun,

Mae band Yr Ogs yn ddiolchgar i gyfraniad CellB i'w datblygiad

Dywedodd un o'r aelodau, Owen: "'Dan ni wedi cael lot o brofiad efo gigs a ballu. 'Dan ni wedi cael chware efo bandiau sy'n fwy na ni, wedi gallu dysgu oddi wrthyn nhw.

"Mae'n dda os 'da ni isio cario 'mlaen efo cerddoriaeth ar ôl gadael ysgol a ballu. Mae'n werthfawr."

Ychwanegodd Isaac, aelod arall o'r band: "Mae'n bwysig iawn.. 'dan ni'n cael defnyddio'r garej a'r stiwdio yma a 'dan ni'n cael gigs yn CellB hefyd.

"Dwi ddim yn meddwl y basa'r band yma heb CellB a'r Gwallgofiaid."

'Hollol ysbrydoledig'

Mae 'na ganmoliaeth wedi dod hefyd gan o un o sêr Hollywood i gyd-fynd a'r dathliad pen-blwydd, gyda Rhys Ifans wedi recordio fideo yn arbennig.

"Dymuniadau gorau i Glwb Clinc a'r Gwallgofiaid a'r 20 mlynedd o fod yn hollol ysbrydoledig a hollol anghredadwy," meddai.

"Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd go iawn i fod yn rhan fach iawn, iawn o'ch taith dros y blynyddoedd diwethaf.

"O fod wedi cael eich cwmni gwych yng nghyfarfodydd Zoom yn ystod y cyfnodau clo, i fod wedi gallu dod i'ch gweld ac i weld y gwaith rydych chi'n ei wneud, ac i ddod i'ch adnabod yn well.

Nid yw’r post yma ar Facebook yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
I osgoi fideo facebook gan Cellb

Caniatáu cynnwys Facebook?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
Diwedd fideo facebook gan Cellb

"Ac felly ymlaen, ymlaen i'r 20 mlynedd nesaf. Pwy a ŵyr?

"Efallai ymhen ychydig iawn o amser y gwelwn eich gwaith celf yn hongian yn orielau mwyaf y byd, eich ffilmiau yn ein sinemâu, ar ein setiau teledu a DJ Callum and Pinkles ar Lwyfan y Pyramid yn Glastonbury.

"Ac os digwydd hynny hogia', mi fydda i yn y rhes flaen."

Pynciau cysylltiedig