Teulu 'wedi eu llorio' gan farwolaeth dyn ar ôl ymosodiad

  • Cyhoeddwyd
Gavin WeekesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Gavin Weekes, 72, ei gludo i'r ysbyty yn dilyn ymosodiad mewn tafarn

Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad honedig mewn tafarn, lle fu farw dyn 72 oed yn ddiweddarach.

Mae'r heddlu'n ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd yn nhafarn y Chatterton Arms, Pencoed ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 29 Awst.

Mae teulu Gavin Weekes - a gafodd ei gludo i'r ysbyty - wedi dweud eu bod "wedi eu llorio" gan ei farwolaeth.

Mae dyn 29 oed wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau'r heddlu'n parhau.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies o Heddlu'r De eu bod yn "estyn eu cydymdeimlad i deulu Mr Weekes yn ystod cyfnod hynod drist.

"Rydym yn parhau i apelio ar unrhywun oedd yn y Chatterton Arms ar adeg y digwyddiad neu sydd â gwybodaeth allai helpu gyda'r ymchwiliad i gysylltu gyda'r heddlu."

Pynciau cysylltiedig