Cwpan Rygbi'r Byd: Y Cymry yn troi Bordeaux yn goch

  • Cyhoeddwyd
Stade Nouveau de Bordeaux
Disgrifiad o’r llun,

Bydd miloedd o gefnogwyr yn heidio i ddinas Bordeaux ar gyfer gemau Cwpan Rygbi'r Byd

Mae'n rhan o'r byd sy'n enwog am win - ond am benwythnos arall o leiaf, bydd 'na naws Gymreig i'r Bordeaux coch.

Fel lleoliad cychwyn taith hanesyddol y pêl-droedwyr yn Euro 2016, mae'r ddinas eisoes yn hawlio lle arbennig i chwaraeon yng Nghymru.

Saith mlynedd yn ddiweddarach, bydd miloedd o gefnogwyr yn heidio unwaith eto i lannau'r afon Garonne - y tro yma'n gobeithio am lwyddiant yng Nghwpan Rygbi'r Byd.

'Dyn ni wrth ein bodd'

Er y traddodiad rygbi yn ardal Bordeaux, nid yw Cymru erioed wedi chwarae gêm Cwpan y Byd yn y ddinas tan nawr.

Roedd y cyfle i weld llefydd newydd yn rhy dda i'w golli i rai felly.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ian Roberts [dde] ei fod yn mwynhau'r cyfle i ymweld â lle llawn hanes ac awyrgylch

"Mae fel nefoedd yma - mae'r lle yn brydferth, yr awyrgylch, yr hanes," meddai Ian Roberts o Gaerdydd, sydd wedi teithio gyda'i fab Matthew.

Roedd eraill fel Deb a'i gŵr Alan o Aberhonddu eisoes wedi profi'r lle.

"Dyma'r ail waith i ni ddod yma - ddaethon ni bum mlynedd yn ôl hefyd," meddai Deb.

"Mae'n ddinas mor fywiog, 'dyn ni wrth ein bodd!"

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gaynor yn dathlu ei phen-blwydd yn 60 gyda'i gwr Christoph, a'u ffrindiau Deb, Alan, Steve a Sue

Gyda nhw mae cwpl arall, Gaynor a Christoph - gyda'r criw yn dathlu pen-blwydd Gaynor yn 60.

"Roeddwn i eisiau mynd i'r Caribî ond ddwedodd y gŵr 'Na, ni'n mynd i Gwpan Rygbi'r Byd!'" meddai.

Ar ôl profi rhywfaint o awyrgylch Ffrainc yn nhwrnamaint 2016, roedd Kurtis o'r Barri yn fodlon gyrru'r holl ffordd yno eto gyda'i ddau ffrind.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kurtis ei fod yn edrych ymlaen at yr awyrgylch ddydd Sul

"Fe wnaethon ni adael ddoe am 19:00 a chyrraedd Bordeaux am 14:00 heddiw - roedd e'n slog a hanner!" meddai.

"Fi'n gobeithio bydd e werth e, gyda'r awyrgylch ddydd Sul."

'Dawnsio, yn hapus, yn canu'

Cafodd cefnogwyr Cymru eu canmol gan awdurdodau Bordeaux am eu hymddygiad yn yr Ewros, ac mae Florian, rheolwr tafarn y Charles Dickens, yn cofio'r argraff a wnaethon nhw.

"Roedd e'n hollol wyllt - roedd y lle yn llawn ohonyn nhw," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Florian yn edrych ymlaen at weld yr holl gefnogwyr. "Mae gen i deimlad da," meddai

"Ro'n nhw'n dawnsio, yn hapus, yn canu - ychydig bach o yfed, ond dim gormod!"

Wrth i'r tymheredd ostwng rywfaint nos Wener o'i uchafbwynt o 34ºc, dechreuodd y tafarndai lenwi gyda chefnogwyr i wylio gêm agoriadol y gystadleuaeth rhwng Ffrainc a Seland Newydd.

Ond gwyrdd y Gwyddelod yn hytrach na choch y Cymry sydd fwyaf amlwg yn y ddinas ar hyn o bryd, gyda phencampwyr y Chwe Gwlad hefyd yn herio Rwmania yn y Stade Nouveau de Bordeaux ddydd Sadwrn.

"'Dyn ni wedi gweld pawb yn dechrau cyrraedd ers ddoe," meddai Florian.

"Mae gen i deimlad da."