Teyrnged i ddyn fu farw wedi digwyddiad yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Ashley SaseroFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Ashley Sasero y bydd colled enfawr ar ei ôl

Mae teulu dyn 26 oed fu farw yn dilyn digwyddiad yn Llanelli wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Ashley Sarsero yn gynnar fore Sul yn ardal Maestir.

Mewn datganiad, dywedodd teulu Mr Sarsero y bydd colled enfawr ar ei ôl.

"Byddai ein bachgen annwyl yn goleuo pob ystafell.

"Roedd yn frawd cariadus i Emily, Rosie, Zach a Liam, yn bartner i Jade ac yn fab ffyddlon i Claire a Wayne."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Maestir yn Llanelli yn gynnar fore Sul

Mae'r teulu'n cael cymorth swyddogion arbenigol, ac mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau â'u hymchwiliad i amgylchiadau ei farwolaeth.

Cafodd dau ddyn, 38 a 36 oed, eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth fore Sul, a chafodd dyn 35 oed ei arestio brynhawn Sul - eto ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae'r tri dyn yn parhau yn y ddalfa, ac mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig