Neil Foden i ymddangos mewn llys ar gyhuddiadau rhyw
- Cyhoeddwyd

Mae Neil Foden, 66, wedi ei gyhuddo o dair trosedd
Bydd prifathro o'r gogledd sydd wedi ei gyhuddo o gam-drin plentyn yn rhywiol yn ymddangos mewn llys fis nesaf.
Mae Neil Foden, 66 o Hen Golwyn, Sir Conwy, wedi ei gyhuddo o dair trosedd, gan gynnwys gweithgarwch rhywiol gyda phlentyn rhwng 13 a 15 oed a chyfathrebu rhywiol gyda phlentyn.
Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 16 Hydref am wrandawiad paratoi at achos llawn.
Cafodd Mr Foden ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno'r wythnos ddiwethaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2023