Pryder am ddyfodol grŵp cymorth iselder wedi toriadau
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp sy'n cynorthwyo pobl i ddelio ag iselder yn Nyffryn Aman a Chwm Gwendraeth yn dweud eu bod yn poeni am ei ddyfodol oherwydd toriadau cyllid.
Cafodd Shadows ei sefydlu gan Louise Craik yn 2017 ar ôl i rai o aelodau ei theulu ddelio gydag iselder.
Mae'n dweud ei bod erbyn hyn yn helpu 1,600 o bobl, a bod ganddyn nhw bolisi drws agored sy'n cynnig gwahanol fathau o gymorth, gan gynnwys help un-i-un, mewn grŵp neu galw i mewn.
Mae'r grŵp yn cael ei ariannu trwy glwstwr o feddygon teulu lleol gydag arian gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda.
Dywedodd y bwrdd iechyd fod cytundeb ariannu Shadows yn dod i ben fis yma, a bod trafodaethau wedi'u cynnal gyda'r grŵp "i edrych ar ffynonellau eraill o ariannu".
'Pa help fydd ar gael?'
Mae'n gyfnod heriol o ran cyllid i'r bwrdd.
Roedden nhw wedi cynllunio i orwario £112.9m, ond mae eu cyfarwyddwr cyllid wedi dweud bod y gwariant eleni wedi pasio hynny yn barod, ac mai dyma'r "wasgfa fwyaf fi wedi gweld erioed yn fy ngyrfa i".
Fe wnaeth BBC Cymru ddatgelu ddydd Mercher fod yna risg y bydd gwasanaeth iechyd Cymru wedi gorwario dros £800m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.
Mae Louise Craik yn dweud ei bod hi'n deall sefyllfa ariannol y bwrdd iechyd, ond ar yr un pryd mae'n gofyn: "Os bydd Shadows yn gorfod cau, pa help fydd ar gyfer y bobl a'r teuluoedd sy'n dod aton ni?"
Dywedodd Jill Paterson, cyfarwyddwr gofal tymor hir Bwrdd Iechyd Hywel Dda: "Mae clwstwr meddygon teulu Aman a Gwendraeth yn gwahodd gwahanol fudiadau i dendro am wasanaethau sydd yn cwrdd â gofynion y gymuned, gan gynnwys gwasanaethau i gefnogi iechyd meddwl a lles.
"Fe gafodd Shadows gytundeb 12 mis i gychwyn yn 2020, ac fe gafodd hwn ei ymestyn am ddwy flynedd tan Medi 2023.
"Mae'r clwstwr wedi cynnal trafodaethau gyda'r grŵp i edrych ar ffynonellau eraill o ariannu."
Mae clwstwr y meddygon teulu hefyd wedi cael cais am ymateb.
Mae Shadows yn dweud eu bod ar hyn o bryd yn edrych ar bob opsiwn posib o ran ariannu ei gwaith i'r dyfodol.
Protest yn erbyn y bwrdd iechyd
Daeth criw o brotestwyr ynghyd tu allan i ganolfan Yr Egin yng Nghaerfyrddin ddydd Iau i brotestio yn erbyn y toriadau, wrth i Fwrdd Iechyd Hywel Dda gynnal cyfarfod yno.
Dyw dyfodol Shadows ddim ar yr agenda, ond dywedodd ymgyrchwyr eu bod eisiau i'w lleisiau gael eu clywed.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Madge, sy'n cadeirio'r ymgyrch i achub y grŵp, y bydd y "frwydr yn parhau tan y bydd synnwyr cyffredin yn dod i'r amlwg".
Mae'n galw am gyfarfod ar frys rhwng Shadows, y bwrdd iechyd a'r clwstwr o feddygon teulu er mwyn trafod y ffordd ymlaen.
'Shadows wedi bod yn anhygoel'
Yn ôl cefnogwyr y grŵp yn lleol, maen nhw wedi "syfrdanu a thristau" o glywed bod yr arian i'r grŵp yn dod i ben.
Un sy'n cefnogi Shadows yw Dai Jenkins o Lanaman.
"Roedd fy ngwraig i, Ruth, â phroblemau iechyd meddwl a buon ni am flynydde mawr yn cael cymorth seiciatrig, ond buodd hi farw yn ifanc, yn 61 oed, mewn clinig yn Plymouth yn trio cael gofal," meddai.
Roedd y teulu wedi trio pob math o gymorth a chefnogaeth.
"Fe fuon ni yn aml iawn yn mynd 'nôl a 'mlaen i adrannau damweiniau yn ysbytai Treforys, Llanelli neu Gaerfyrddin," meddai Mr Jenkins.
"Roedd e'n amser prysur iawn i ni."
Mae'n dweud ei fod ef yn bersonol yn teimlo ei fod yn ymddangos yn eithaf cryf, "ond tu mewn ma' rywun yn pendroni".
"Fi'n teimlo mor flin am bobl sy'n dod i Shadows, achos ma' beth ma' nhw 'di 'neud wedi bod yn anhygoel.
"Mae help ar gael ar y pryd - dim bo' chi'n gorfod aros misoedd i weld rhywun."
'Efallai bydd rhaid cau yn gyfan gwbl'
Mae Paul Davies o Rydaman yn un o arweinwyr y grŵp ymgyrchu lleol sy'n ceisio achub Shadows.
"Mae Shadows wedi helpu shwd gyment o bobl yn y gymuned," meddai.
"Ar y foment mae'n edrych fel bydd rhaid newid shwd ma' Shadows yn gweithio, neu yn anffodus efallai bydd rhaid cau Shadows yn gyfan gwbl oherwydd bod yr arian wedi cael ei dorri."
Mae Mr Davies yn apelio am ragor o help gan y bwrdd iechyd, gan ddweud bod y grŵp yn cynnig help sy'n holl bwysig i'r ardal.
"Mae e 'di helpu pobl mewn galar, pobl â gorbryder, neu bobl sy' ddim mo'yn bod yma rhagor.
"Maen nhw'n helpu bore a nos.
"Dwi ddim yn gwybod lle fydd y bobl yma'n mynd am help os daw Shadows i ben."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi neu rhywun rydych chi'n eu hadnabod, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2023
- Cyhoeddwyd11 Awst 2023
- Cyhoeddwyd29 Awst 2023