Gwrthod cais i ymestyn gwaith glo brig ger Rhydaman

  • Cyhoeddwyd
Glan Lash
Disgrifiad o’r llun,

Does dim gwaith cloddio wedi bod ar safle Glan Lash ers 2019

Mae cais i ymestyn gwaith glo brig Glan Lash ger Rhydaman wedi ei wrthod gan Gyngor Sir Gaerfyrddin.

Does dim gwaith cloddio wedi bod yno ers 2019, pan wnaeth cwmni Bryn Bach Coal Ltd gais am estyniad, gan honni ei fod yn angenrheidiol er mwyn talu am adfer y tir.

Agorodd y lofa yn 2012, ac roedd y drwydded wreiddiol yn caniatáu cloddio am 92,500 tunnell o lo dros gyfnod o bedair blynedd a hanner.

Ond cafodd cais ei gyflwyno yn 2019 i ehangu'r safle er mwyn cloddio am 95,038 tunnell dros gyfnod o chwe blynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd protestwyr yn erbyn y datblygiad y tu allan i adeilad y cyngor sir fore Iau

Mewn cyfarfod yn Neuadd y Dref yng Nghaerfyrddin ddydd Iau, dywedodd swyddog rheoli datblygiad y sir, Tom Boothroyd, fod adroddiadau'n dangos y byddai'r cynefinoedd fyddai'n cael eu colli o ganiatáu'r cais yn fwy nag unrhyw fudd a fyddai'n dod i'r ardal.

Ychwanegodd Mr Boothroyd fod y cyngor wedi derbyn 826 o wrthwynebiadau ers i'r cais gael ei gyflwyno yn 2018.

Roedd y safle'n cynhyrchu glo carreg, sy'n cael ei ddefnyddio at bwrpas diwydiannol fel cyflenwi gweithfeydd dur.

Mae polisi glo Llywodraeth Cymru'n atal datblygu safleoedd newydd neu ymestyn rhai sydd eisoes mewn bodolaeth oni bai fod yna "amgylchiadau gwirioneddol eithriadol".

Roedd hyd at 50 o brotestwyr yn bresennol y tu allan i Neuadd y Dref fore Iau i ddangos eu gwrthwynebiad i'r cynllun.

Dywedodd cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Haf Elgar, fod cynghorwyr wedi gwneud "y penderfyniad hanesyddol i roi byd natur a hinsawdd yn gyntaf - ac mae ein dyled yn fawr iddynt".

"Trwy ddweud na wrth fwy o lo yng Nglan Lash - y pwll glo brig olaf yng Nghymru - gallwn weld diwedd ar gloddio glo brig yng Nghymru o'r diwedd - ac am byth.

"Mae glo yn rhan o'n treftadaeth, nid ein dyfodol.

"Rhaid inni ganolbwyntio yn lle hynny ar ynni glanach, gwyrddach a chreu swyddi gwyrdd cynaliadwy yn Sir Gaerfyrddin a ledled Cymru."

Pynciau cysylltiedig