Natasha Harding yn ymddeol o bêl-droed yn 34 oed

  • Cyhoeddwyd
Natasha HardingFfynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o’r llun,

Natasha Harding yn dathlu sgorio ar achlysur ei chanfed cap dros ei gwlad y llynedd

Mae ymosodwr Cymru, Natasha Harding wedi cyhoeddi ei bod yn ymddeol o bêl-droed yn 34 oed.

Fe enillodd ei chanfed cap rhyngwladol yn ystod ymgyrch Cwpan y Byd y llynedd, gan sgorio ei gôl olaf dros ei gwlad yn y fuddugoliaeth yn erbyn Kazakhstan.

Fe sgoriodd 26 o goliau mewn crys Cymru ar ôl gwneud ei hymddangosiad cyntaf i'r tîm cenedlaethol yn 2008.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd bod "y gair 'ymddeol, yn arfer codi gymaint o fraw arnaf" ond ei bod bellach yn "teimlo taw nawr yw'r amser cywir i roi'r gorau arni".

Dywedodd bod ei chyfnodau gyda chlybiau Caerdydd, Bristol Academy, Manchester City, Lerpwl, Reading ac Aston Villa "oll wedi helpu fy siapio fel chwaraewr ac fel person".

Dim ond pedwar o ymddangosiadau y gwnaeth i Aston Villa ar ôl ymuno â nhw y llynedd a doedd hi heb ei chynnwys yn rhestr y garfan a gyhoeddodd y clwb ddydd Gwener.

Bu'n rhaid iddi gael llawdriniaeth fis Tachwedd diwethaf wedi anaf i'r tendon yn ystod sesiwn hyfforddi.

Mae hi ymhlith naw o chwaraewyr yn unig sydd wedi cynrychioli Cymru 100 o weithiau, ynghyd â Jess Fishlock, Lauren Dykes, Sophie Ingle, Helen Ward ac Angharad James o dîm y merched, a Chris Gunter, Gareth Bale a Wayne Hennessey dros y dynion.

Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Natasha Harding 26 o goliau i'w gwlad

"Mae pêl-doed wedi rhoi gymaint o gyfleoedd, cyfeillgarwch, profiadau bywyd a llawer mwy i mi," dywedodd Harding yn ei neges.

"Hoffwn i ddiolch i'r holl reolwyr bues i'n gweithio â nhw ar hyd y ffordd. Ry'ch chi oll wedi chwarae rhan yn y chwaraewr ydwyf heddiw.

"Hoffwn i ddiolch i'r Women's Super League am ganiatáu i'r fenyw wallgo' 'ma fod yn rhan o hanes. Mae wedi bod yn fraint i gael gwneud gymaint o ymddangosiadau a gweld y gynghrair yma'n tyfu gymaint.

"I fy ffrindiau, teulu ac yn arbennig fy nghymar, diolch i chi am yr aberthau ry'ch chi wedi eu gwneud dros y blynyddoedd wnaeth fyth fynd yn ddisylw.

"Ac yn olaf, i'r Wal Goch. Rwy'n ddiolchgar am byth am eich cefnogaeth dros y blynyddoedd. Fe wnaethoch chi e hyd yn oed yn fwy sbesial bob tro ges i'r pleser o roi'r crys yna ymlaen am mor hir."