Ras drwy Kenya yn 'ehangu bywyd'

  • Cyhoeddwyd
Ann a chyd-rhedwrFfynhonnell y llun, Ann Evans
Disgrifiad o’r llun,

Ann (ar y dde) a chyd-rhedwr

Mae Ann Evans o Ferthyr newydd ddychwelyd o Kenya lle bu'n cymryd rhan mewn ras pum niwrnod oedd yn golygu rhedeg rhyw 30 milltir y dydd drwy ardaloedd cadwraethol y wlad - a hynny mewn gwres llethol.

Mae wedi bod yn dipyn o flwyddyn i Ann, sy'n 66 oed, ar ôl iddi dorri record Cymru i fenywod dros 65 oed yn yr hanner marathon yng Nghasnewydd - dipyn o her ond nid cymaint o her â'r ultra-marathon 230km For Rangers Ultra yn Affrica.

Erbyn hyn mae Ann nôl adre yn Nhroed-y-Rhiw a bu'n sgwrsio gydag Alun Thomas ar Bore Sul am y profiad.

Y ras drwy KenyaFfynhonnell y llun, Ann Evans
Disgrifiad o’r llun,

Y ras drwy Kenya

"Hyd yn oed nawr mae'r adrenalin dal yn rhedeg - dwi wedi gweld pethau dwi byth mynd i weld 'to. Mae'n ehangu'ch bywyd chi a dwi'n teimlo bod fi'n berson mwy cyfoethog bod fi wedi bod 'na ac wedi gweld y wlad.

"'Nes i'r un fath o ras gyda'r un cwmni yn y jyngl yn Peru pum neu chwe mlynedd yn ôl ac 'oedd hon yn un o'r rhai 'nes i feddwl, os dwi'n neud un arall byth hon dwi ishe neud.

"Jest diddordeb mewn natur ac anifeiliaid ac mae gen i gyfnither sy'n byw yn Kenya ers 35 o flynyddoedd. O'n i erioed ishe mynd i'w gweld hi a gweld Kenya, ac oedd hyn yn esgus da.

"Doedd e ddim fel rhedeg marathon Caerdydd, doedd e ddim yn gyflym. Oedd hyd yn oed yr elite ddim yn gallu rhedeg y peth i gyd. Roedd y tirlun yn anodd - cerrig mân a weithiau cerrig mwy. Roedd lan a lawr dipyn. O'n i mas am weithiau wyth awr y dydd felly oedd cyfle i weld yr ardaloedd hyfryd hyn.

"Gwelon ni y townships a'r ardaloedd go iawn, y Kenya go iawn.

Argraffiadau

"Cyn bod y ras yn dechrau, o 10 milltir tu fas Nairobi, mae'r heolydd fel dirt tracks a does dim tarmac. Roedd mynd trwy'r townships llwm wedi bwrw fi. Roedd rhai adeiladau moethus ac o fewn chwarter awr, ardaloedd mor llwm gyda shacks. Byddai teulu o falle saith neu wyth yn byw yn rheiny.

"O'n i'n rhedeg trwy pump ardal - gwelon ni mam rheino gyda dau fabi bach wrth ei hymyl hi. Roedd y ras yn araf achos ti ddim yn gallu rhedeg heibio nhw, roedd rhaid cael y camera mas.

"A wedyn teulu o jiráffs. Dwi'n dod o Eglwyswrw a dwi ddim wedi gweld lot o jiráffs so oedd hwnnw'n hyfryd.

Teulu jiraffFfynhonnell y llun, Ann Evans

"Gwrddon ni gwahanol bobl bob dydd.

"Roedd gweld y plant bach yn y townships, maen nhw'n gwybod rhyw bump brawddeg fel 'give me sweets'. Mae ysgol mewn pob ardal.

Eliffantod ar y fforddFfynhonnell y llun, Ann Evans

Rhedeg yn y gwres

"Roedd y tirlun yn wahanol iawn fel y llwch hyn trwy'r amser, dwi dal yn trio golchi y llwch coch hyn mas o'n ngwallt i.

"Y peth caleta' oedd y gwres - haul tanbaid o rhyw 40 gradd bob dydd. Ond hyd yn oed peth cynta' yn y bore oedd hi'n dwym, dwym.

"Er bod fi wedi ymarfer cario popeth - bwyd, gwely, dillad, bob dim - yn y gwres 'na roedd y bag yn dechrau rwbio yr ysgwyddau a'r cefn.

Rhannu'r cyffro wrth orffen y rasFfynhonnell y llun, Ann Evans
Disgrifiad o’r llun,

Rhannu'r cyffro wrth orffen y ras

Poen

"Dwi wedi neud y ras ola' nawr.

"Hon oedd yr un o'n i'n gwybod, dwi'n 66, mae paratoi ar gyfer hwn wedi bod yn flwyddyn heriol i'r corff a nawr dwi yn teimlo, gwell i fi adael hi nawr. Dwi ddim yn mynd i stopio rhedeg ond falle parkruns o hyn ymlaen!

"Dwi wedi neud popeth dwi ishe neud a ddim yn teimlo'n drist ambeutu 'ny o gwbl."

Medal am gwblhau'r rasFfynhonnell y llun, Ann Evans