Drakeford: Gohirio targedau newid hinsawdd yn 'annoeth'
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi beirniadu Llywodraeth y DU am ohirio nifer o'u prif dargedau o ran ceisio mynd i'r afael â newid hinsawdd.
Yn Downing Street brynhawn Mercher, fe gyhoeddodd Rishi Sunak gynllun newydd i geisio sicrhau gwlad sero net erbyn 2050, gan gynnwys oedi rhai targedau.
Mae Mark Drakeford wedi galw'r newid yn "annoeth", tra bod Plaid Cymru wedi galw'r cyhoeddiad yn "ddatblygiad peryglus".
Fore Iau, amddiffynnodd Ysgrifennydd Cymru'r cynllun newydd gan ddweud ei fod yn dangos "hyblygrwydd" ac yn "realistig".
Beth ddywedodd Rishi Sunak?
Mae'r cynllun diwygiedig yn cynnwys gohirio'r gwaharddiad ar werthu ceir petrol a diesel newydd am bum mlynedd tan 2035.
Bydd neb yn cael eu gorfodi chwaith i gael gwared ar foeleri nwy nes bod angen eu newid beth bynnag.
Ond mae'r gwaharddiad ar werthu rhai newydd o 2035 ymlaen yn parhau, ond fe fydd yna eithriad newydd yn achos yr aelwydydd tlotaf.
Bydd yr arian sydd ar gael i helpu pobl uwchraddio'u boeleri yn codi 50% i £7,500.
Ond ni fydd disgwyl mwyach i landlordiaid sicrhau bod pob eiddo y maen nhw'n eu rhentu â Thystysgrif Perfformiad Ynni Gradd C o leiaf o 2025 ymlaen.
Mae Mr Sunak yn mynnu ei fod yn dal yn benderfynol o sicrhau gwlad sero net erbyn 2050 ond bod angen trywydd gwahanol ac osgoi gorfodi "costau annerbyniol" ar deuluoedd mewn adeg o gynni ariannol.
Ond mae'r ymateb gan rhai yn chwyrn ac mae Llywodraeth Cymru'n cyhuddo Mr Sunak o wthio'r baich ar genedlaethau'r dyfodol.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford bod penderfyniad Mr Sunak yn un "annoeth sy'n creu ansefydlogrwydd pellach i fusnesau".
Mae'r newidiadau hefyd, meddai, "yn bygwth ein cynnydd wrth fynd i'r afael â mater mwyaf dybryd a phwysig ein hoes".
'Peryglus, sarhaus, pryderus'
Roedd llefarydd Newid Hinsawdd Plaid Cymru, Delyth Jewell hefyd yn siomedig wrth ymateb i'r cyhoeddiad ar raglen Post Prynhawn.
"Mae hyn yn ddatblygiad peryglus, mae'n sarhau, mae'n bryderus... maen nhw'n amddifadu cenedlaethau cyfan o unrhyw obaith," dywedodd.
Awgrymodd mai "dyma fydd y dechre, fi'n siŵr", gan ragweld sawl tro pedol pellach wrth i lywodraeth Geidwadol San Steffan "newid be' maen nhw eisio gwneud gyda newid hinsawdd".
Dywedodd Cyfarwyddwr yr elusen natur WWF Cymru, Gareth Clubb bod trafnidiaeth ymhlith y sectorau sydd fwy heriol i'w ddadgarboneiddio a bod "oedi yn y meysydd yma yn 'neud y gwaith lot yn fwy anodd i genedlaethau'r dyfodol ac yn y degawdau i ddod".
Ond yn siarad ar Dros Frecwast fore Iau, dywedodd Ysgrifennydd Cymru yng nghabinet Mr Sunak mai'r nod oedd dangos "hyblygrwydd".
Dywedodd David TC Davies: "Mae'r cyhoeddiad wedi dod oherwydd y ffaith bod y targedau sydd gyda ni oedd yn mynd i gosbi pobl sydd ddim 'efo pres, a doedd y wlad ddim yn barod am hynny.
"Felly roedd hi yn bwysig dangos tamed bach o hyblygrwydd dros y targedau er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu fforddio symud at net sero, a bod ni yn gallu cymryd pobl gyda ni a dangos enghraifft i weddill y byd."
Ychwanegodd bod ei lywodraeth yn "dal wedi ymrwymo at net sero a ni dal yn gallu cwrdd gyda ein targedau".
Dywedodd ei bod yn "bwysig dangos enghraifft ond hefyd dangos i weddill y byd bod ni yn gallu newid at net sero heb gosbi pobl gormod".
"Felly ni ddim wedi newid polisi ni dal wedi ymrwymo at net sero ond mewn ffordd sydd yn realistig."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2021