Carcharu plismon am ymosod ar ddyn mewn fan heddlu
- Cyhoeddwyd
Mae swyddog o Heddlu'r De wedi ei garcharu am 12 wythnos am ddyrnu dyn awtistig saith gwaith wedi iddo gael ei arestio.
Fe gafwyd y plismon Jack Williams, 27, yn euog o ymosod ym mis Awst.
Fe welodd ynadon Casnewydd fideo o Williams yn pwnio Tariq Evans yn ei ben sawl gwaith yng nghefn fan heddlu.
Fe ddywedodd y Barnwr Sophie Toms wrth Williams ei fod wedi "bachu ar y cyfle i fwrw ei ddicter ar Tariq".
Roedd ei ymddygiad yn "syfrdanol," meddai.
Fe glywodd y llys bod Mr Evans, 23, bellach wedi colli ei swydd, yn dioddef o hunllefau a phennau tost, ac yn colli ei gof.
Mae Mr Evans hefyd yn gwrthod gadael ei gartref ers yr ymosodiad.
'Methu a symud nac amddiffyn ei hun'
Fe glywodd y llys i'r dyn ifanc gael ei arestio ar amheuaeth o achosi difrod ar 24 Hydref 2022.
Fe wnaeth sawl swyddog redeg ar ei ôl nes ei fod yn gorwedd ar Stryd Woodville, Treforys.
Fe gafodd ei arestio a'i daflu i gefn fan heddlu "drwy rym ac yn ddiangen," meddai'r barnwr.
Fe gafodd Mr Evans ei roi mewn gefynnau, cafodd ei goesau eu clymu ac fe gafodd mwgwd ei roi dros ei ben i'w rwystro rhag frathu neu boeri.
Roedd modd ei glywed yn gweiddi mewn poen, clywodd y llys.
Ar ôl galw Mr Evans yn enwau creulon, fe aeth Williams i gefn y fan a gweiddi "paid a fy mrathu" cyn ei bwnio sawl tro ar ei ben.
Fe wnaeth camerâu corff swyddogion eraill ddal Williams yn taro Mr Evans saith gwaith.
Does dim tystiolaeth bod Mr Evans wedi ceisio brathu Williams.
Fe ddaeth y barnwr i'r casgliad fod Williams wedi gwneud adroddiadau ffug am y digwyddiad er mwyn sicrhau y byddai Mr Evans yn cael ei erlyn am ymosod ar heddwas.
Mae gan Mr Evans ADHD ac awtistiaeth, a does dim cyhuddiad wedi dod yn ei erbyn.
Roedd Mr Evans "yn y sefyllfa fwya' bregus, ni symudodd e na cheisio rhwystro'r ymosodiad arno," meddai'r barnwr.
"Mi oedd e mewn caets bach metal heb fedru symud nac amddiffyn ei hun."
Fe ddisgrifiodd y digwyddiad fel "ymosodiad parhaus" a "chamdriniaeth o bŵer gan unigolyn mewn grym" nad oedd wedi dangos "unrhyw edifeirwch".
'Chwe neu saith swyddog ar ei ben'
Y tu allan i'r llys wedi'r ddedfryd, fe ddywedodd mam Tariq Evans fod "cyfiawnder wedi'i gyflawni".
Fe glywodd y teulu am y digwyddiad trwy weld fideo ar Facebook.
"Pan glywson ni ei lais," medd Sarah-Lee Evans, "ro'n i'n gwybod ar unwaith mai fy mab oedd hwnnw".
"Roedd tua chwe neu saith swyddog ar ei ben, ond ro'n i'n gallu clywed ei lais ac mi oedd e'n gweiddi ac yn galw amdana i, ac yn dweud nad oedd e wedi gwneud unrhyw beth o'i le."
Pan aeth Mrs Evans i'w gwrdd yn yr orsaf heddlu, "roedd ei wyneb wedi'i ddifetha, roedd ganddo ddau lygad du, ac roedd ei lygaid yn goch".
"Mi ddywedais i wrth y swyddog yno, 'dych chi wedi mynd yn rhy bell, pam na ddefnyddioch chi taser?"
Fe glywodd y llys nad oedd hi'n bosib dweud pa anafiadau a achoswyd gan Williams a pha rai ddaeth yn ystod y cyfnod wedi iddo gael ei arestio.
Fe ddywedodd Mrs Evans nad oedd hi'n hawdd gwylio'r fideo o'r ymosodiad.
"Dw i wedi ei wylio tair gwaith a phob tro dw i'n cael lwmp yn fy ngwddf.
"Saith gwaith, mae hynny'n cymryd y gyfraith i dy ddwylo dy hun. Mi oedd e'n ymddwyn fel barnwr yn ogystal â heddwas.
"Diolch byth am y camerâu cyrff."
Ychwanegodd ei chwaer Ascena, 25 nad oedd ganddi eiriau i ddisgrifio'r peth: "Ro'n i moyn ymateb, ond galli di ddim gan dy fod yn y llys."