Gŵr a gwraig â llosgiadau yn dilyn tân car ger ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Swyddogion heddlu ger Ysbyty Singleton
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu alwad tua 08:20 ddydd Gwener bod car ar dân ar dir Ysbyty Singleton

Mae dau berson wedi cael llosgiadau yn dilyn digwyddiad ar safle Ysbyty Singleton yn Abertawe.

Fe gafodd Heddlu De Cymru alwad ychydig wedi 08:20 ddydd Gwener yn rhoi gwybod bod car ar dân ar dir yr ysbyty.

Wedi i'r gwasanaethau brys gyrraedd, fe wnaethon nhw nhw ddod o hyd i fenyw a dyn oedd wedi dioddef llosgiadau a'u cludo i'r ysbyty.

Dywedodd yr heddlu bod y ddau yn ŵr a gwraig.

"Cafodd y fenyw ei darganfod â llosgiadau sylweddol i'w chorff ac anaf i'w phen," dywedodd yr heddlu mewn datganiad.

Maen nhw'n dweud bod ei chyflwr yn ddifrifol iawn, ond mae'r dyn mewn cyflwr sefydlog.

Disgrifiad o’r llun,

Mae traffig yn cael ei ddargyfeirio o'r ffordd sy'n arwain at fynedfa'r ysbyty o Barc Y Sgeti

Mae'r llu'n ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad ac mae swyddogion yn dal ar y safle.

Bu'r ffordd ar gau dros dro rhwng Parc y Sgeti a'r fynedfa i'r ysbyty a Phwll Cenedlaethol Cymru ond mae bellach wedi ailagor.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe bod yr ysbyty ar agor yn ôl yr arfer ond fe rybuddiodd bod yna "gryn effaith" i yrwyr yn sgil cau'r ffordd a dargyfeirio traffig o Heol Y Mwmbwls.

Pynciau cysylltiedig