Protest deddf 20mya ar ôl 400,000 o lofnodion deiseb

  • Cyhoeddwyd
ProtestFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cannoedd yng Nghaerdydd yn gwrthwynebu'r newid i'r terfyn cyflymder.

Fe ddaeth cannoedd o brotestwyr ynghyd yng Nghaerdydd wrth i ddeiseb sy'n gwrthwynebu newid i'r terfyn cyflymder ar nifer o ffyrdd Cymru gyrraedd dros 400,000 o lofnodion.

Mae'r terfyn cyflymder newydd o 20mya yn lle 30mya mewn ardaloedd preswyl yn weithredol ers ddydd Sul.

Roedd cannoedd yn protestio mewn gorymdaith yn y brifddinas ddydd Sadwrn - gyda baneri'n cyfeirio at y newid polisi a materion eraill.

Mae'r polisi wedi bod yn hynod ddadleuol ond dweud mai achub bywydau a diogelu cymunedau yw'r nod mae Llywodraeth Cymru.

Ddydd Gwener fe gyhoeddodd y Ceidwadwyr Cymreig y byddan nhw'n cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn y dirprwy weinidog newid hinsawdd, Lee Waters, fu'n arwain y newid polisi.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Ashgar A.S, fod safle Mr Waters "yn anghynaladwy" a'i bod "yn bryd iddo fynd".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd un baner yn dangos y geiriau "Rhaid i Drakeford a Waters fynd" yn ystod y brotest

Fe wnaeth hi gyhuddo Mr Waters o "geisio tanseilio ewyllys mwyafrif pobl Cymru".

Mae Mr Waters, a'r Prif Weinidog Mark Drakeford, wedi amddiffyn y polisi yn chwyrn.

Dywedodd Mr Waters: "Pan fo'r terfynau cyflymder yn is, mae pobl yn teimlo'n fwy diogel wrth seiclo a cherdded, felly mae llai o bobl yn gyrru."

Y ddeiseb yn gwrthwynebu'r newid polisi yw'r un a'r nifer uchaf erioed o lofnodion i gael ei chyflwyno i'r Senedd.

Mae deiseb sy'n cefnogi'r terfyn cyflymder newydd wedi cael tua 500 o lofnodion hyd yma.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cyflwyno terfyn cyflymder o 20mya mewn ardaloedd preswyl yn bennaf wedi'i gynllunio i achub bywydau a gwneud ein cymunedau'n fwy diogel i bawb, gan gynnwys modurwyr.

"Mae wedi cael ei ymchwilio'n drylwyr, gydag ymgynghori helaeth ac mae wedi cael ei dreialu mewn cymunedau ledled Cymru."