Terfyn cyflymder newydd 20mya yn dod i rym

  • Cyhoeddwyd
Arwydd 20mya
Disgrifiad o’r llun,

Mae hawl gan gynghorau i osod eithriadau i'r terfyn newydd pan yn briodol

Mae'r gyfraith yn newid yng Nghymru ddydd Sul wrth i'r rhan fwyaf o'r ffyrdd oedd yn 30mya droi'n 20mya, er bod cynghorau wedi gosod eithriadau i'r terfyn newydd.

Fe allai gyrwyr gael dirwy os ydyn nhw'n gyrru ar gyflymder uwch nag 20mya, ond fe fydd pwyslais ar addysgu ac ymgysylltu - a rhywfaint o ddisgresiwn gan yr heddlu - am y flwyddyn gyntaf.

Bydd camerâu cyflymder yn gweithredu gan ddefnyddio'r trothwyon goddefiant presennol, sef 10% o'r terfyn cyflymder + 2mya.

Ond nid ydy pob camera wedi eu haddasu ac yn barod i fynd mewn pryd i'r newid yn y gyfraith ddydd Sul.

Disgrifiad,

'Dwi'n teimlo bod yna newid yn barod' medd y Cynghorydd Dilwyn Morgan o weld pobl yn gyrru yn Y Bala fore Sul

Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn cost y cynllun, sef £32.5m, gan ddweud y bydd yn arwain at lai o farwolaethau a damweiniau.

Ond mae rhai yn gwrthwynebu'r newid yn chwyrn.

Mae achosion o ddifrodi neu dynnu arwyddion wedi eu cofnodi mewn sawl sir, gan gynnwys Conwy, Fflint, Gwynedd, Casnewydd, Torfaen, Wrecsam ac Ynys Môn.

Y llynedd, pleidleisiodd y Senedd dros gyflwyno 20mya fel y cyfyngiad cyflymder arferol ar ffyrdd cyfyngedig - Cymru yw'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud hynny.

'Parhau i adolygu'

Dydd Mercher, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i "barhau i adolygu effaith y terfynau newydd, grymuso awdurdodau lleol i wneud unrhyw eithriadau pellach a darparu cyllid digonol i awdurdodau lleol i hwyluso cyflwyno terfynau newydd".

Methodd cynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar weinidogion i ddiddymu'r ddeddfwriaeth.

Ond fe gafodd gwelliant Plaid Cymru, oedd yn galw am "barhau i adolygu effaith y terfynau newydd," ei chymeradwyo gyda chefnogaeth Llafur.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Tra bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cytuno y dylid gosod terfyn cyflymder 20mya y tu allan i ysgolion ac ysbytai, mae'r blaid yn gwrthwynebu gwneud hynny ar bob ffordd gyfyngedig.

Dywedodd eu llefarydd ar drafnidiaeth, Natasha Asghar, nad yw'r cyhoedd "eisiau'r prosiect cyfyngiad cyflymder 20mya hollgynhwysfawr, costus, difeddwl, trychinebus hwn".

Cyhuddodd hi'r llywodraeth o fod â "meddylfryd gwrth-yrru," wrth i'w chydweithiwr Tom Giffard ddweud bod gweinidogion yn "cynnal rhyfel yn erbyn modurwyr".

Mae llefarydd Plaid Cymru ar drafnidiaeth wedi dweud bod y blaid yn "llwyr gefnogi egwyddor terfynau cyflymder mwy diogel".

Ond ychwanegodd Delyth Jewell AS y dylai "cymunedau gael rhoi barn ar newidiadau ble nad yw 20mya yn teimlo'n gywir ar gyfer ble maen nhw'n byw".

Bydd terfyn o 30mya yn cael ei osod pan fydd achos dros wneud hynny, yn ôl y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Waters.

"Felly does dim terfyn cyffredinol 20mya, fel y mae'r Ceidwadwyr yn honni ar gam," meddai.

"Gall amrywio yn ôl amgylchiadau lleol, fel y penderfynwyd gan yr awdurdod priffyrdd lleol - ac mae hynny'n digwydd yn barod."

'Mi ddaw yn rhan o fywyd bob dydd'

"Ma' 'na ardaloedd o fewn y dre' wedi newid dros nos - ma' 'na rywun wedi bod yn gweithio'n brysur iawn."

Roedd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, sy'n cynrychioli ward Y Bala ar Gyngor Gwynedd, yn ymateb i'r arwyddion 20mya sydd bellach i'w gweld mewn llefydd fel y Stryd Fawr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Dilwyn Morgan yn croesawu'r polisi newydd, ond yn barnu'r ffordd y mae wedi ei gyflwyno i'r cyhoedd

"Ma' hwn yn safle lle 'dan ni 'di gweithio dros y blynyddoedd i ga'l 20 milltir yr awr oherwydd bod y plant yn croesi ac yn y blaen," meddai, wrth siarad tu allan i Ysgol Godre'r Berwyn.

Dywedodd bod gyrwyr eisoes yn ymddangos yn cymryd sylw o'r arwyddion ac yn arafu eu cyflymder.

"Mae o wedi digwydd ac i'w groesawu," meddai. "Dwi'n teimlo bod yna newid yn barod, rywsut."

Ond fe ychwanegodd ei fod yn feirniadol o'r ffordd y mae'r polisi wedi cael ei gyflwyno i'r cyhoedd, gan ddweud bod rhai yn rhannu gwybodaeth "pwyntiau annheg" yn ei gylch.

"Mewn amser, fydd hwn 'di mynd yn hen newyddion, yn bydd, tebyg i'r amser o'ddan ni'n gorfod gwisgo gwregys yn y car... mi ddaw yn rhan o fywyd bob dydd, gobeithio."

Disgrifiad o’r llun,

Yn y dyddiau a'r wythnosau diwethaf, mae pobl wedi mynegi dryswch yn sgil golygfeydd fel hon ym Mangor Is-coed, Sir Wrecsam - mae'r arwyddion yma wedi eu cywiro erbyn hyn

Mae hi'n llai calonogol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn ôl y Cynghorydd Tim Thomas.

"Yn anffodus, yn y gymuned yma, mae llawer o bobl wedi dweud wrtha'i bod yna ffyrdd ble dyw pobl ddim yn cadw at 30mya felly rwy'n meddwl bod yna brin obaith y bydd pobl yn cadw at 20mya felly bydd yn rhaid i ni weld.

"Beth fydde'n well gyda nhw fydde canolbwyntio ar ffyrdd sy'n destun pryder, ac mae yna ffyrdd felly fel yr A4061 ble mae angen mesurau diogelwch ffordd.

"Y farn yn gyffredinol yw gyda chost uchel y newid yma fydd dim arian ar ôl ar gyfer mwy o fesurau diogelwch ffordd.

"Rwy'n meddwl bod yna le ar gyfer cyfyngiadau cyflymder o 20mya tu fas i ysgolion, ysbytai a lleoedd chwarae... ond mae wir angen edrych ar ble mae fwyaf angen y terfynau yma."

Tra bydd swyddogion heddlu yn y lle cyntaf yn cael cyngor i ddefnyddio disgresiwn, bydd gyrwyr sy'n cael eu dal yn goryrru gan gamerâu sefydlog yn cael eu dirwyo. .

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru Mark Travis fod yr awdurdodau brys a'u partneriaid yn ymgysylltu â gyrwyr a chymunedau ac yn eu haddysgu "i sicrhau bod y terfyn cyflymder newydd yn cael ei barchu".

Y nod fydd rhoi arweiniad i'r cyhoedd "ac annog gyrwyr i wneud y penderfyniad cywir a newid eu harferion gyrru" ond "maes o law fe fyddwn ni'n symud tuag at gorfodaeth".