Menyw wedi marw o 'anafiadau gan wartheg' - cwest
- Cyhoeddwyd
Y gred yw bod menyw o Bowys wedi marw ar ôl cael ei sathru gan wartheg mewn cae, clywodd cwest.
Wrth agor cwest i farwolaeth Lorna Milward, 59, clywodd y gwrandawiad ei bod yn cerdded ei chŵn adeg y digwyddiad.
Cafodd Ms Milward, o Feifod, ger y Trallwng, ei darganfod yn farw ar waelod llethr yn ardal Cegidfa ar 1 Medi.
Dywedodd yr heddlu fod y llwybr roedd Ms Milward yn ei gerdded yn arwain trwy gae lle'r oedd 40 o wartheg.
Dywedodd swyddog y crwner, Lynne Carroll: "Nid ydym yn gwybod sut ddigwyddodd, ond mi wnaeth y fenyw dderbyn anafiadau niferus gan y gwartheg a chafodd ei chanfod yn farw ar waelod llethr i ffwrdd o'r llwybr."
Ychwanegodd Ms Carroll bod archwiliad post mortem wedi canfod "anafiadau trawmatig niferus" fel achos y farwolaeth dros dro.
Dywedodd y crwner cynorthwyol Andrew Morse: "Ar sail y wybodaeth a ddarparwyd mae angen agor cwest i'r mater hwn.
"Ar hyn o bryd rwy'n mynegi fy nghydymdeimlad i deulu a ffrindiau Ms Milward."
Cafodd y cwest, sy'n cael ei gynnal ym Mhontypridd, ei ohirio.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: "Rydym yn ymwybodol o'r digwyddiad ac yn gwneud ymholiadau."