Isdeitlau Cymraeg bellach ar gael ar Newyddion S4C

  • Cyhoeddwyd
BRR

Mae S4C wedi ychwanegu isdeitlau Cymraeg at raglenni Newyddion S4C yn dilyn ymgynghoriad gyda dysgwyr.

Mae'r cam yn golygu bod modd gwylio'r newyddion gyda'r isdeitlau Cymraeg ar y teledu neu ar wasanaeth ar-lein S4C Clic.

Bu'r sianel yn holi dysgwyr er mwyn "deall ac ymateb i'w anghenion a'u harferion gwylio," meddai mewn datganiad.

"Mae'n wych ein bod yn gallu cefnogi siaradwyr Cymraeg newydd fel hyn wrth iddyn nhw ddysgu a gwella eu defnydd o'r iaith," medd un o gyflwynwyr Newyddion S4C Rhodri Llywelyn.

'Mynediad haws at yr iaith'

"Rwy'n hynod o falch bod Newyddion S4C yn cynnig y dewis i gael isdeitlau ar y rhaglenni Newyddion," ychwanegodd y gyflwynwraig Bethan Rhys Roberts.

"Mae hyn yn golygu bod mwy o bobl yn medru gwylio'r rhaglen, sydd yn dod â'r holl straeon newyddion mawr o Gymru, Prydain a'r byd i'r gwylwyr."

"Bydd hyn yn rhoi mwy o gyfleon i'r gynulleidfa weld y straeon mawr sy'n effeithio ein bywydau trwy lens Cymreig."

Fe ddywedodd Rhodri Llywelyn:"Bydd modd i ddysgwyr a'r rheiny llai hyderus yn eu Cymraeg ddilyn yr hyn sydd yn cael ei ddweud trwy ddarllen ynghyd â chlywed, a chael deall y straeon mewn mwy o fanylder o ganlyniad."

Yn ôl y sianel, bydd isdeitlau Cymraeg yn golygu "mynediad haws i bawb allu defnyddio tipyn bach o Gymraeg bob dydd".

Pynciau cysylltiedig