Cynlluniau ad-drefnu diffoddwyr tân yn 'beryglus'

  • Cyhoeddwyd
Ymarfer

Mae cynlluniau awdurdod tân y gogledd i leihau'r ddarpariaeth yn rhai o'r gorsafoedd trefol yn "beryglus", yn ôl undeb.

Mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru (ATAGC) eisiau gwella'r ddarpariaeth mewn ardaloedd gwledig, ond hefyd angen gwneud arbedion ariannol.

Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf o adnoddau'r gwasanaeth mewn ardaloedd trefol ar hyd arfordir y gogledd, gan gynnwys gorsafoedd yn Y Rhyl, Glannau Dyfrdwy a Wrecsam.

Maen nhw'n ymgynghori ar dri chynnig i adrefnu'r gwasanaeth, ond mae Undeb y Brigadau Tân wedi cyflwyno pedwerydd opsiwn. 

Yn ôl yr awdurdod, maen nhw'n barod i ystyried y cynnig hwnnw hefyd.

Beth ydy'r cynigion?

Fe gyhoeddodd ATAGC fis Gorffennaf eu bod am adrefnu'r gwasanaeth er mwyn medru cyrraedd digwyddiadau'n gynt mewn ardaloedd gwledig.

Mae'r tri opsiwn yn cynnig staffio gorsafoedd o'r newydd yn y dydd - yng Nghorwen, Dolgellau a Phorthmadog.

Opsiwn 1

Symud diffoddwyr tân o orsafoedd Y Rhyl a Glannau Dyfrdwy a staffio'r gorsafoedd hynny yn y nos o adref.

Opsiwn 2

Gwneud gorsafoedd Y Rhyl a Glannau Dyfrdwy yn ddibynnol ar ddiffoddwyr ar alwad yn y nos - pobl sy'n gwneud swyddi eraill. 

Byddai'r ail opsiwn hefyd yn symud un injan dân o orsaf dinas Wrecsam - syniad oedd yn ddadleuol iawn rai blynyddoedd yn ôl. 

Byddai'n golygu arbedion o dros £1m ond yn arwain at gael gwared â 22 o swyddi diffoddwyr llawn amser.

Opsiwn 3

Mae'r trydydd opsiwn yn cynnwys yr un newid ag opsiwn 2, ond dwy orsaf ychwanegol yn unig fyddai'n cael eu staffio yn y dydd. 

Byddai hefyd yn cau pum gorsaf sydd ar hyn o bryd yn ddibynnol ar ddiffoddwyr ar alwad - yn Abersoch, Biwmares, Llanberis, Conwy a Cherrigydrudion

Canlyniad hyn fyddai arbedion ariannol o £2.4m, ond colli 36 o ddiffoddwyr llawn amser a 38 o ddiffoddwyr ar alwad.

'Cynlluniau peryglus'

Mae pennaeth y gwasanaeth tân yn y gogledd, Dawn Docx wedi dweud nad ydy hi'n cefnogi'r trydydd opsiwn. 

Ond yn ôl Undeb y Brigadau Tân, nid oes un o'r cynigion gan yr awdurdod yn ddiogel. 

Dywedodd Gavin Roberts o'r undeb: "Bydd yr opsiynau i droi Y Rhyl a Glannau Dyfrdwy o llawn amser i shifft dydd yn beryglus."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gavin Roberts bod y cyhoedd yn fodlon talu trethi uwch am wasanaeth fwy diogel

Mae'r undeb wedi cyflwyno cynnig arall i'r Awdurdod fyddai'n golygu codi rhagor ar y dreth cyngor. 

Dywedodd Gavin Roberts "'Dan ni isio gweld y gwasanaeth yn tyfu a fuasai hyn ond yn costio dwy bunt y mis mewn treth cyngor."

"Dwi'n meddwl bod pobl yn barod i dalu mwy am y gwasanaeth. Mae'n cadw pobl yn saff."

'Mater o gonsensws'

Byddai angen codi treth y cyngor yng ngogledd Cymru o dan y tri chynnig, er mwyn cwrdd â heriau ariannol. 

Yn ôl cadeirydd ATAGC, y Cynghorydd Dylan Rees, maen nhw'n barod i ystyried cynnig yr undeb.

"Er ein bod ni yn ymgynghori ar dri opsiwn, dydy o ddim yn meddwl bod ni'n gorfod derbyn unrhyw un o'r tri opsiwn yna ar ddiwedd y dydd."

"A 'dan ni'n croesawu'r ffaith bod yr FBU wedi dod i fyny gydag opsiwn arall i ni ystyried.

"Be' sy'n bwysig nodi ydy bod ni a'r FBU yn cytuno bod rhaid i ni wneud rhywbeth i wella'r ddarpariaeth yn ein cymunedau gwledig ac mae'n fater rŵan o geisio cael consensws ynglŷn â be' ydy'r ffordd orau o wneud hynny."

Bydd yr ymgynghoriad yn gorffen ar 30 Medi. Mae'r awdurdod yn gobeithio y byddai unrhyw ddiswyddiadau yn rhai gwirfoddol.