'Dim angen' llysgennad brenhinol i bêl-droed Cymru
- Cyhoeddwyd
"Gwneud y peth iawn i bêl-droed Cymru" fydd y flaenoriaeth pan fydd y Gymdeithas Bêl-droed yn penderfynu a ydyn nhw am barhau i gael llysgennad brenhinol, yn ôl ei phrif weithredwr.
Dyna ddywedodd Noel Mooney mewn ateb i gwestiwn ynghylch deiseb sy'n galw ar CBDC i beidio â phenodi aelod arall o'r Teulu Brenhinol i'r rôl.
Y Frenhines Elizabeth II oedd Llysgennad CBDC hyd nes ei marwolaeth y llynedd, ac yn ôl adroddiad papur newydd diweddar mae'r Teulu Brenhinol yn awyddus i weld Tywysoges Cymru yn llenwi'r bwlch.
Mae CBDC yn dal i drafod a ddylid parhau gyda'r rôl yn y dyfodol.
"Rydyn ni eisiau gwneud y peth iawn i gymdeithas Cymru ac i Gymdeithas Bêl-droed Cymru," dywedodd Mr Mooney.
"Beth sy'n dod â gwerth i bêl-droed Cymru? Beth sy'n ein gwneud yn well? Beth sy'n gwneud i ni fynd yn gyflymach?
"Felly mae gyda ni adolygiad - rydyn ni'n siarad gyda rhanddeiliaid gwahanol a monitro beth mae'r gymdeithas yn edrych arno.
"Ar y foment dyna'r broses sydd dan adolygiad."
Ychwanegodd bod "dim dyddiad pendant" o ran ceisio dod i benderfyniad.
Y mudiad sy'n ymgyrchu i droi Cymru'n weriniaeth, Cymru Republic, yw trefnwyr y ddeiseb, sydd wedi denu cannoedd o lofnodion ers ei lansio ganol Medi.
Maen nhw'n galw ar CBDC "i ddirwyn i ben y drafodaeth" ynghylch penodi llysgennad o'r Teulu Brenhinol.
Eu dymuniad, yn hytrach, fyddai dewis "rhywun sydd yn angerddol tros Gymru" i hybu pêl-droed Cymru ar bob lefel "ac sydd yn adnabyddus ac yn uchel ei barch ymysg ein dinasyddion".
Ychwanega'r ddeiseb: "Dylai'r llysgennad fod ar flaen y gad yn uno ein cenedl ac ddim yn rhwygo ein cymdeithas fel mae Llysgenhadon Brenhinol yn ei wneud mor aml."
Dywedodd Bethan Sayed, sy'n aelod o'r mudiad, bod gwaith "gwych" CBDC dros y blynyddoedd diwethaf wedi "tynnu pobl at ei gilydd gyda'r iaith, gyda teuluoedd yn mynychu'r gemau, gyda teimlo bod e'n rhywbeth sy'n rhan o fywyd bob dydd Cymreig".
Ychwanegodd: "'Dan ni ddim yn gweld bod cael Llysgennad Brenhinol yn cyd-fynd gyda hynny.
"Os unrhyw beth, fydde'n gelyniaethu nifer o ffans sydd falle ddim yn ymwneud gyda'r Teulu Brenhinol."
Mae aelodau'r Teulu Brenhinol yn lysgenhadon i dros 60 o sefydliadau yng Nghymru - o'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd i Undeb Rygbi Cymru (URC).
Tywysog Cymru yw llysgennad brenhinol URC ers Rhagfyr 2016, ond mae hefyd yn llysgennad Cymdeithas Bêl-droed Lloegr.
Mae hynny wedi creu cryn chwithdod i lawer ar brydiau, fel pan ddymunodd yn dda i dîm Gareth Southgate ar ddechrau Cwpan y Byd yn Qatar y llynedd, er bod Cymru hefyd yn cymryd rhan yn y rowndiau terfynol.
Serch hynny, dadl nifer yw bod eu rôl yn rhoi statws uwch i sefydliadau.
Dywedodd cyn-weinidog Chwaraeon Cymru, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, bod y "statws sydd ar gael gan aelod blaenllaw o'r Teulu Brenhinol - sydd, gobeithio, â diddordeb yn chwaraeon... o ddefnydd go iawn i hyrwyddo digwyddiadau arbennig yn y gêm".
O blaid neu'n erbyn - bydd rhaid aros am beth amser eto cyn clywed beth fydd penderfyniad Cymdeithas Bel-droed Cymru a darganfod os bydd y cysylltiad brenhinol yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst 2023
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2022