Dafydd Iwan: Poblogrwydd Yma o Hyd 'wedi newid fy mywyd'
- Cyhoeddwyd
Mae'r twf diweddar ym mhoblogrwydd 'Yma o Hyd' yn arwydd bod Cymry di-Gymraeg wedi "newid eu hagwedd tuag at y Gymraeg go iawn", yn ôl Dafydd Iwan.
Dywedodd cyfansoddwr y gân fod y sylw sydd wedi bod ers iddi gael ei mabwysiadu fel anthem answyddogol y tîm pêl-droed cenedlaethol y llynedd wedi "newid fy mywyd".
Mewn cyfweliad cynhwysfawr gyda BBC Cymru i nodi ei ben-blwydd yn 80 oed, bu'r canwr hefyd yn trafod sawl agwedd ar ei fywyd yn ogystal â'i safbwynt ar faterion fel annibyniaeth a'r frenhiniaeth.
Wrth drafod dyfodol y Gymraeg, dywedodd mai un o'r datblygiadau mwyaf "pwysig" oedd bod cymaint mwy o Gymry di-Gymraeg "bellach yn frwd o blaid yr iaith".
Er ei bod hi'n 40 mlynedd bellach ers i 'Yma o Hyd' - cân brotest am sefyllfa wleidyddol Cymru ar y pryd - gael ei rhyddhau gyntaf, fe gafodd fywyd newydd y llynedd wrth i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ei mabwysiadu fel eu cân swyddogol ar gyfer ymgyrch Cwpan y Byd.
Cafodd Dafydd Iwan ei wahodd i'w chanu yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn y gemau ail gyfle yn erbyn Awstria ac Wcráin - cyn cael ei alw yn ôl gan y chwaraewyr i'w pherfformio unwaith eto ar y cae, yn dilyn y chwiban olaf wnaeth sicrhau lle Cymru yn y twrnament.
"Dwi'n gorfod pinsio fy hunan weithiau bod e wedi digwydd," meddai Mr Iwan wrth adlewyrchu ar y sylw i'r gân ers hynny. "Ond mi wnaeth hynny newid fy mywyd i.
"A'r peth mwya' mae e wedi ei wneud ydi mynd â chân Gymraeg fel 'Yma o Hyd' i fywydau ac ymwybyddiaeth miloedd o Gymry di-Gymraeg, a phobl tu allan i Gymru.
"Mae o 'di bod yn gyfnod gwych, ond mae o wedi argyhoeddi fi o'r ffaith bod pobl Cymru yn barod i newid eu hagwedd tuag at y Gymraeg go iawn.
"Mae'n rhaid i ni fanteisio ar y cyfle yna, ond mae'n rhaid rhoi cyfle i blant gael y Gymraeg i ddechrau."
Mae brwdfrydedd pobl di-Gymraeg tuag at y gân yn enwedig, meddai, yn arwydd o newid agwedd yn ehangach tuag at yr iaith.
"Nid mater o niferoedd ydi [dyfodol yr iaith] yn y pen draw, ond mater o agwedd y bobl at y Gymraeg - y Cymry Cymraeg, a'r di-Gymraeg," meddai.
"A dwi'n gweld yn fanno bod 'na gamau mawr ymlaen.
"Dwi'n gweld llawer iawn o Gymry di-Gymraeg bellach yn frwd o blaid yr iaith, yn anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac mae hynny'n gymaint o ddatblygiad pwysig."
'Mi fydd yr iaith yn newid'
Er mwyn gweld twf yn nifer y siaradwyr, fodd bynnag, mae'n dweud bod angen cydnabod na fydd yr iaith yn "aros yn llonydd" wrth i'r Gymru fodern newid o'i chwmpas.
"Awn ni fyth yn ôl i'r Gymru uniaith yr oedd Kate Roberts yn sgwennu amdani, mae hynny'n amhosib," meddai. "A dyw e ddim yn beth dymunol.
"Beth sy'n bwysig yw bod y Gymraeg yn iaith gymunedol mewn cynifer o lefydd ag sy'n bosib, a dwi'n meddwl y gwelwn ni o.
"Ond mi fydd yr iaith yn newid - mi fydd 'na bobl yn cwyno bod yr hen Gymraeg pur wedi diflannu, ond drwy'r cyfan mae'n rhaid i ni fod yn gall a sylweddoli bod ieithoedd yn newid, bod ieithoedd yn esblygu, a bod cymdeithas yn newid."
Er bod rhai pobl wedi cwestiynu a yw datblygiadau digidol yn arwain mwy o bobl i droi at y Saesneg, pwysleisiodd Dafydd Iwan fod angen gweld hynny fel "cyfle, nid bygythiad yn unig" - gyda cherddoriaeth Gymraeg, er enghraifft, bellach yn cael ei glywed "drwy'r byd".
"Dwi'n meddwl bod ganddon ni sylfaen i ddyfodol llewyrchus i'r iaith Gymraeg.
"Ond ar y llaw arall, dal i gwffio fyddwn ni - hynny yw, mae'r iaith Gymraeg, fel pob iaith leiafrifol drwy'r byd, yn gorfod ymladd am ei heinioes, a dyna fydd ei sefyllfa hi.
"'Dyn ni byth am gyrraedd rhyw fore a dweud: 'Mae'r iaith Gymraeg yn saff, mae wedi ei hachub, does dim angen poeni dim mwy'.
"Mae'n rhaid i ni ymladd yn erbyn y symbylau, ac yn erbyn y tuedd, i bawb fynd yn debyg i'w gilydd."
Yn enedigol o Frynaman, daeth Dafydd Iwan i'r amlwg i ddechrau fel cerddor, ac roedd yn adnabyddus am ganeuon protest yn ogystal â bod yn ymgyrchydd blaenllaw dros yr iaith yn yr 1960au.
Roedd yn un o nifer a dreuliodd gyfnod yn y carchar yn ystod ymgyrch o ddifrodi arwyddion ffordd uniaith Saesneg - rhywbeth mae'n dweud oedd yn achos pwysig ar y pryd.
"Nid arwyddion sy'n mynd i achub yr iaith, nid ffurflenni sy'n mynd i achub yr iaith," meddai.
"Ond roedd rhaid mynd drwy'r cyfnod yna o ysgwyd pobl i feddwl."
Mae cyfnodau felly o weithredu uniongyrchol yn "mynd a dod", meddai, gan ddweud bod pobl bellach "yn ymroi i'r ymgyrch dros yr amgylchedd a chynhesu byd eang gyda'r un math o ymroddiad".
'Teulu Brenhinol yn llai a llai perthnasol'
Rhywun fu'n destun i un o ganeuon protest Dafydd Iwan yn y cyfnod hwnnw oedd y Tywysog Charles, wrth iddo gael ei arwisgo fel Tywysog Cymru yng Nghaernarfon yn 1969.
Er i'r ddau gyfarfod yn 2019 ar gyfer rhaglen S4C yn edrych yn ôl ar y cyfnod hwnnw - gyda Mr Iwan yn disgrifio Charles fel dyn "diddorol" - dyw'r cenedlaetholwr dal heb newid ei farn ar y frenhiniaeth nac arwisigiad arall.
"Fyswn i ddim yn mynd allan o'n ffordd i ymgyrchu [yn ei erbyn], achos bellach mae ganddon ni bethau pwysicach i'w sortio yng Nghymru, sef pwy sy'n rhedeg Cymru, sut 'dyn ni'n rheoli Cymru... dyna'r pethau pwysig," meddai.
"Mae'r Teulu Brenhinol yn mynd yn llai a llai perthnasol, ac mi fydd rhaid iddyn nhw ffeindio eu lle yn y Gymru newydd ac yn y Brydain newydd i'r dyfodol.
"Os 'dyn nhw'n gall, mi wnawn nhw osgoi arwisgo arall."
Fel cyn-Lywydd Plaid Cymru a chyn-gynghorydd dros y blaid, mae Dafydd Iwan hefyd wedi bod yn gefnogwr oes o annibynniaeth i Gymru - er bod dal angen "diffinio" beth fyddai hynny'n ei olygu.
"Annibyniaeth i mi ydi digon o bwerau gan Senedd Cymru i benderfynu beth sy'n bwysig, beth yw'r blaenoriaethau, sut mae amddiffyn adnoddau a phobl Cymru," meddai, gan wfftio'r awgrym mai breuddwyd gwrach yw hynny o hyd.
"Mae'n rhaid i chi gael breuddwydion, ac mae'n rhaid i chi gredu mewn ffordd wahanol o wneud pethau.
"Erbyn hyn mae llawer iawn o'r hyn ro'n i'n ei ganu amdano [yn yr 1960au] wedi dod yn wir, ac felly mae'n rhaid i ni ddilyn y freuddwyd.
"Mae'n rhaid i ni ddilyn ein delfryd, ac mae'n rhaid i ni gredu yng Nghymru."
Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llafur?
I hynny ddigwydd, fodd bynnag, mae'n teimlo ei bod hi'n anochel y bydd yn rhaid i'w blaid ef yn y pendraw gydweithio ar hynny gyda Llafur Cymru.
"Rhaid i ni beidio anwybyddu'r ffaith bod 'na orgyffwrdd, a bod 'na bobl yn y Blaid Lafur sy'n agos iawn, iawn aton ni yma ym Mhlaid Cymru, fel y mae llawer iawn o bobl ym Mhlaid Cymru yn agos at ddelfrydau sosialaidd," meddai.
"Mae'n rhaid i ni weld sut mae symud ymlaen gyda'n gilydd."
Er nad yw'n un i "ddifaru" pethau wrth edrych yn ôl ar y cyfraniadau helaeth yn ystod ei fywyd, mae'n dweud bod teimlad ganddo "y gallwn ni fod wedi gwneud popeth ychydig yn well".
"Dwi wedi bod yn gwneud llawer o bethau drwy fy mywyd, ac mae hynny'n gallu bod yn fantais ac mae'n gallu bod yn anfantais," meddai.
"Yn y pen draw, mae'n rhaid i bopeth 'dyn ni'n ei wneud wella ansawdd bywyd pobl Cymru. Dyna yn y pen draw ydi'r peth sy'n cyfuno popeth dwi wedi trio'i wneud.
"Dwi'n weddol fodlon fy mod i wedi helpu rhyw gymaint yn y cyfeiriad [hwnnw]."
'Ymddeol yn ddistaw'
Ond mae ganddo un cwestiwn arall i'w bendroni.
"Y broblem fawr 'sgena i rŵan, yn 80, ydi sut mae ymddeol yn ddistaw, sut mae diflannu!
"Na, dwi'n mwynhau bywyd, dwi mor ffodus. Ond bydd rhaid i fi dderbyn realiti cyn bo hir, a gweld sut mae tynnu'r llinynnau ynghyd."
Gallwch wrando ar y cyfweliad llawn gyda Dafydd Iwan ar BBC Sounds.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2022