'Mewn dagrau' oherwydd system stopio trolïau archfarchnad

  • Cyhoeddwyd
Asda
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dyfeisiau newydd yn atal trolïau rhag gadael y siop pan nad ydynt wedi pasio trwy fan talu

Mae rhai o gwsmeriaid archfarchnad yn Llandudno yn dweud eu bod wedi derbyn anafiadau wrth i system ddiogelwch gloi olwynion eu trolïau yn ddirybudd.

Mae Asda wedi gosod dyfeisiau ar eu trolïau er mwyn eu stopio wrth allanfa'r siop os nad ydynt wedi pasio trwy fan talu, neu os oes angen gwirio eu cynnwys.

Ond mae rhai siopwyr yn dweud eu bod wedi bwrw mewn i'r trolïau wrth stopio'n ddirybudd gan anafu eu cefnau neu stumogau.

Dywedodd Asda eu bod yn hapus trafod y mater gydag unrhyw un sydd wedi cael problemau.

'Mewn dagrau'

Un sydd wedi cael profiad o'r fath yw Lucy Cousins, fu'n siopa yn Asda ar 30 Medi.

Dywedodd bod problemau gyda'i chefn wedi ail-godi wedi iddi fwrw i mewn i droli.

Dywedodd: "Tarodd y poen yn fy nghefn ar unwaith a gwnaeth y larymau'n canu fy nychryn.

Ffynhonnell y llun, Lucy Cousins
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lucy Cousins bod problemau gyda'i chefn wedi ail-godi ers iddi fwrw mewn i droli

"Dywedais i wrtho [aelod o staff] cymaint roedd yn brifo a cytunodd ei fod yn boenus pan ddigwyddodd.

"Cyfeiriodd at rybudd ar bwys y drws tu ôl i arddangosfa cynnyrch."

Ychwanegodd: "Ces i fy ngadael mewn dagrau a'n methu sefyll yn syth.

"Cefais sioc ofnadwy pan ddigwyddodd - roedden i wedi bod yn derbyn cymorth physio i wella fy nghefn ac yn sydyn dwi mewn poen sylweddol eto."

Mae siopwyr eraill wedi cael profiadau tebyg.

Dywedodd Hollie Roberts, o Landrillo-yn-Rhos, fod angen i'r archfarchnad wneud yr arwyddion yn fwy amlwg.

"Digwyddodd i fi. Stopiodd o mor sydyn es i mewn i'r troli. Gwnaeth o frifo fy stumog a tharo'r gwynt allan ohona' i, gan nad o'n i'n cerdded yn araf.

"Gwnaeth y swyddog diogelwch ruthro draw ata i ac roedd yn gallu gweld fy mod wedi cynhyrfu felly roedd hynny'n neis iawn, ond dywedodd ei fod yn digwydd llawer oherwydd dydy pobl ddim yn gwybod amdano."

Dywedodd llefarydd ar ran Asda: "I sicrhau diogelwch cydweithwyr a chwsmeriaid ac i atal dwyn, mae gennym gyfres o fesurau diogelwch mewn lle yn ein holl siopau.

"Bydden ni'n hapus i gymryd manylion y cwsmeriaid yma fel ein bod yn gallu cysylltu â nhw am eu pryderon."

Pynciau cysylltiedig